
Ymgynghoriad Iaith mewn Iechyd a Gofal
16/05/2012Bu Undeb yr Annibynwyr yn ymgyrchu ers rhai blynyddoedd i gael darpariaeth trwy gyfrwng y Gymraeg i bobl sy’n hen, yn fregus neu’r sâl. Mae strategaeth Llywodraeth Cymru 'Mwy na Geiriau' yn cynnig gwella'r sefyllfa'n aruthrol, ac mae nifer o eglwysi, gweinidogion, cyfundebau ac aelodau unigol wedi ymateb i'r ymgynghoriad trwy gefnogi'r strategaeth.
Ond mae Cymdeithas Meddygon y BMA wedi ymateb mewn modd negyddol iawn i'r ymgynghoriad, gan ddweud na ddylai'r Gymraeg gael blaenoriaeth yn y gwasanaeth iechyd. O ganlyniad mae Undeb yr Annibynwyr wedi cyhoeddi'r Datganiad Newyddion hwn:
"Credwn fod hawl sylfaenol gan bobl i gael gwasanaeth trwy gyfrwng y Gymraeg mewn ysbyty neu gartref preswyl yng Nghymru. Mae pobl yn teimlo’n llawer mwy cysurus o gael gofal yn eu hiaith eu hunain. Yn anffodus, prin yw’r ystyriaeth a roddir i hyn yn gyffredinol. Mae’r ddarpariaeth naill a’i ddim yn bod o gwbl, neu’n fympwyol ac ysbeidiol. Mae angen i awdurdodau iechyd a staff meddygol, gofalwyr a rheolwyr cartrefi preswyl ddeall bod iaith yn rhan hanfodol o fywyd person.
Yn ogystal â bod yn fater o hawl sylfaenol i Gymry Cymraeg yn eu gwlad eu hunain, mae cleifion gyda dementia a phobl sydd wedi dioddef strôc yn aml yn colli’r gallu i siarad eu hail-iaith – sef Saesneg. Mae’n bwysig cofio hefyd fod nifer o blant yn uniaith Gymraeg i bob pwrpas. Gall peidio â darparu gwasanaeth ar gyfer y fath bobl yn Gymraeg fod yn fethiant clinigol neu feddygol. Mae dewis iaith yn elfen hanfodol o’r therapi.
Yn hytrach na chymryd y fath agwedd negyddol, byddai’n well petai’r BMA yn awgrymu ffyrdd o ddarparu ar gyfer siaradwyr Cymraeg mewn iechyd a gofal. Gallai hynny olygu rhoi ystyriaeth i allu person i siarad Cymraeg wrth benodi staff, ac wrth lunio rota neu batrwm shifft."

