
Rhaglen Datblygu: Y Dyfodol
07/06/2012
Rydym yn y bedwaredd flwyddyn (o bump) o gyfnod y Rhaglen Datblygu. Er bod nifer o eglwysi wedi ymateb yn frwdfrydig i'r Rhaglen, siomedig ar y cyfan fu nifer y ceisiadau gan eglwysi a Chyfundebau am arian i weithredu cynlluniau cenhadol yn lleol.
Mae'n debyg fod hyn yn adlewyrchu ein diffyg hyder pan fyddwn yn meddwl am genhadaeth ymarferol, yn ôl yr Ysgrifennydd Cyffredinol, y Parchg Ddr Geraint Tudur. Mae’n ymddangos, felly, y bydd yn rhaid i'r Undeb ei hunan ystyried bod yn llawer iawn mwy ymarferol yn y gwaith yn hytrach na disgwyl i'r eglwysi roi yr arweiniad angenrheidiol yn lleol.
Trafodwyd y prinder ceisiadau am nawdd i brosiectau mewn cyfarfod o Banel y Rhaglen Datblygu yn Aberystwyth (uchod). Awgrymodd Llywydd yr Undeb, y Parchg Andrew Lenny, bod angen symleiddio’r ffurflen, a'i bod yn bwysig bod yr eglwys neu’r Cyfundeb cyfan yn ymwybodol bod cais yn cael ei wneud, ac nid dim ond y gweinidog, y diaconiaid neu'r swyddogion. Cytunwyd gydag awgrym yr Ysgrifennydd Cyffredinol y dylid ail-edrych ar y ffurflen i weld sut y gellid ei symleiddio. 
Mewn trafodaeth agored ac onest, awgrymwyd hefyd bod pobl yn cael trafferth deall y Rhaglen Datblygu am fod cymaint o bwyntiau ac elfennau ynddi. D’oedd pobl ddim yn sylweddoli ei bod yn bosib dewis a dethol darnau o’r Rhaglen i'w gweithredu. Cytunwyd i wneud hyn yn fwy eglur.
(Uchod: Y Parchedigion Andrew Lenny a Dyfrig Rees)

