
Cymanfa CWM yn Samoa
21/06/2012Mae cynrychiolwyr 31 o enwadau ac undebau eglwysig sy’n perthyn i CWM (Council for World Mission) yn y Gymanfa yn Samoa Americanaidd. I’r cynadleddwyr o Gymru, roedd yn golygu teithio hanner ffordd o gwmpas y byd.
Cynrychiolwyr Undeb yr Annibynwyr: Dr Geraint Tudur (Ysgrifennydd Cyffredinol), y Parchg Dyfrig Rees (cynrychiolydd yr Undeb ar fwrdd ymddiriedolwyr CWM), Carwyn Siddall a Carolyn Tudur.
"Mae'r Gymanfa yn mynd rhagddi yn rhagorol, gydag anerchiadau a gweithdai buddiol ac adeiladol yn llenwi'r dyddiau," meddai Dr Geraint Tudur. "Wrth reswm, mae'r cymdeithasu hefyd yn werthfawr, ac yn gyfle i rwydweithio gydag eglwysi ac unigolion ar draws y byd. Ddoe, cefais gyfarfod byr gyda Lala Rasandrahasina o Eglwys Iesu Grist ym Madagascar, a buon yn trafod eto ein syniadau ar gyfer dathlu daucanmlwyddiant glanio'r cenhadon o Gymru ar yr ynys yn 1818. Mae gennym chwe blynedd ar ôl i wneud ein trefniadau!
"Bu'r croeso yma yn wresog, y bwyd yn ardderchog a'r addoli'n fywiog a chynnes wrth i bobl o bob oed ymuno ynddo. Yn wahanol i Gymru, mae'r bobl yma wedi llwyddo i gadw eu hieuenctid yn rhan o fwrlwm bywyd yr eglwysi, ac mae hynny'n awgrymu fod gennym ni lawer i'w ddysgu ganddynt. A dyna pam ein bod fel Undeb yn rhan o weithgareddau byd eang dan nawdd CWM a mudiadau tebyg, rhag i ni fynd yn ynysig, yn blwyfol yn grebachlyd ac yn sur," meddai Dr Tudur.
"Duw a'n gwaredo rhag bod felly, a bydded iddo'n galluogi i ddysgu oddi wrth eraill gyfrinach trosglwyddo'r ffydd o genhedlaeth i genhedlaeth, ac i'r rhai sydd y tu allan i'n cylchoedd eglwysig arferol."
[O.N. CWM oedd yn talu holl gostau'r teithwyr!]

