Annibynwyr Title
 
 
 
 
Penderfyniadau Undeb 2012

Penderfyniadau Undeb 2012

28/06/2012

1. Rhyfel Afghanistan

Er bod son a du llywodraeth San Steffan ei bod yn fwriad dod â’r milwyr adref o Afghanistan cyn gynted â phosibl, mae Undeb yr Annibynwyr Cymraeg, yn ei Gyfarfodydd Blynyddol yn Wdig, Abergwaun, yn datgan unwaith eto eleni, ac am y chweched flwyddyn yn olynol, ei awydd i’w gweld yn cyrraedd adref yn ddiogel ar fyrder, ac yn annog y llywodraeth i wneud pob darpariaeth angenrheidiol i gwrdd â’u hamrywiol anghenion wrth iddynt gyrraedd.
rhyfel  Gwrthwynebwn ryfel ar egwyddor. Credwn ei fod yn groes i Efengyl ein Harglwydd Iesu Grist ac i Air Duw. Y mae’n wastraff ar fywydau, ar adnoddau ac ar arian, ac yn esgor ar erchyllterau, ar gasineb ac ar anghyfiawnder.   

Galwn ar y llywodraeth i geisio ffyrdd eraill a gwahanol o ddatrys problemau rhyngwladol, a rhoi'r heibio'r duedd a welwyd ganddi yn y gorffennol i ymyrryd yn filwrol mewn gwledydd eraill. Anogwn ein gwleidyddion i geisio heddwch, cyd-ddealltwriaeth a chymod ymhob amgylchiadau, a thrwy hynny osod esiampl ar gyfer gwleidyddion a llywodraethau eraill ledled y byd.  

Cynnig: Parchg Ddr Alun Tudur; Eilio: Parchg Ddr Geraint Tudur

2. Apêl Cymorth Cristnogol 2013-2014

Yn ei Gyfarfodydd Blynyddol yn Wdig, Abergwaun, mae Undeb yr Annibynwyr Cymraeg yn datgan y bydd, yn y Cyfarfodydd Blynyddol y flwyddyn nesaf yng Ngogledd Arfon, yn lansio ei chweched Apêl er budd gwaith Cymorth Cristnogol.

Byddwn yn derbyn arweiniad gan staff Cymorth Cristnogol ynglŷn â pha faes i’w ddewis, ac wedyn yn sicrhau person neu bersonau addas i fynd i weld y gwaith yn y wlad a’r maes a ddewisir.

Yr ydym yn hyderus y bydd Apêl 2013-2014 yr un mor llwyddiannus ag apeliadau’r gorffennol.

Cynnig: A. Elenid Jones;  Eilio: Rhodri Eckley

 

 

Newyddion
News
16/05/2013
Y Gymraeg a Christnogaeth
16/05/2013
Rhwydweithio Cymdeithasol
16/05/2013
Arfau i Fadagascar
Dyluniwyd gan www.elfen.co.uk