
Ail dymor i'r Dr Geraint Tudur
18/07/2012Mae’r Parchg Ddr Geraint Tudur wedi derbyn gwahoddiad Undeb yr Annibynwyr Cymraeg i fod yn Ysgrifennydd Cyffredinol am dymor o saith mlynedd arall.
"Ymrwymaf o’r newydd i wneud fy ngorau yng ngwasanaeth yr Efengyl ac yng ngwaith yr Undeb, ac i fod yn gefn i’n gweinidogion, yr eglwysi a’r Cyfundebau," meddai Dr Tudur. "Gyda chymaint o waith i’w wneud, mae’n bwysig ein bod ni i gyd yn tynnu i’r un cyfeiriad, fel staff yr Undeb, fel swyddogion, fel gweinidogion, ac fel Cristnogion yn gyffredinol. Mae ein tystiolaeth yn mynd i fod yn bwysicach yn ystod y blynyddoedd nesaf nac a fu ar unrhyw adeg arall yn ein bywydau ni."
Yn enedigol o Fangor, fe dreuliodd y Parchg Ddr Geraint Tudur dros bymtheng mlynedd yn weinidog Eglwys Ebeneser, Caerdydd, cyn symud ym 1994 i Brifysgol Cymru, Bangor, i ddysgu Hanes yr Eglwys. Treuliodd ddeuddeng mlynedd yno, cyn ei ethol yn Ysgrifennydd Cyffredinol Undeb yr Annibynwyr Cymraeg ym Medi 2006. O 2013-17, Dr Tudur fydd Llywydd Cymdeithas Annibynwyr y Byd.
Cyfrifoldeb yr Ysgrifennydd Cyffredinol yw cynnig arweiniad, ysgogi gweithgarwch a hyrwyddo holl bolisïau'r Undeb gan gynnwys y rhai sy'n ymwneud â'r genhadaeth. Mae hefyd yn cynnig gofal bugeiliol i'r Cyfundebau, yr eglwysi a'r gweinidogion. Mae'n cynrychioli'r Undeb yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol, ac yn cadw mewn cysylltiad cyson â'i gyd-swyddogion cyfatebol mewn enwadau eraill.

