Annibynwyr Title
 
 
 
 
Cyfle Gwych i Ddysgu Cenhadu

Cyfle Gwych i Ddysgu Cenhadu

20/07/2012

Mae CWM yn chwilio am ddeuddeg o bobl, o blith nifer o wledydd ac enwadau, ar gyfer ei gynllun Hyfforddiant mewn Cenhadaeth yn 2013. Bydd y gwaith yn Seland Newydd a’r India, o fis Chwefror tan fis Tachwedd, gyda CWM yn talu’r holl gostau teithio, bwyd, llety etc.

"Dyma gyfle ardderchog i berson ifanc dreulio bron i flwyddyn yn cael hyfforddiant Cristnogol mewn dwy wlad wahanol," meddai Dr Geraint Tudur, Ysgrifennydd Cyffredinol Undeb yr Annibynwyr. "Mae sawl un o’n haelodau wedi bod ar gynllun o’r fath yn y gorffennol, ac wedi cael eu hysbrydoli a’u gwefreiddio."

dylan rhysBu Dylan Rhys o Gaernarfon yn Ne Affrica a’r India y llynedd. ‘Fe gefais i amser grêt,’ meddai. ‘Gwnes ffrindiau newydd a dysgu cymaint i’w rannu â’r eglwysi yma yng Nghymru. Rydym ni’n aml yn meddwl fod pawb yr un peth a ni, ond nid felly y mae. Dysgais fod angen gwerthfawrogi agweddau a syniadau oedd yn ddieithr i mi. Y gwir amdani yw bod Duw yn gallu gweithredu mewn cymaint o wahanol ffyrdd."

Os ydych rhwng 20-30 oed, yn aelod mewn eglwys Annibynnol, mewn iechyd da ac yn medru cydweithio’n hwylus gydag eraill, mae croeso i chi wneud cais i gael eich ystyried ar gyfer cynllun cenhadaeth CWM.

Ffoniwch neu e-bostiwch Dr Geraint Tudur cyn Awst 13, os gwelwch yn dda. Ei rif yw: 07909 976908   geraint@annibynwyr.org

Newyddion
News
16/05/2013
Y Gymraeg a Christnogaeth
16/05/2013
Rhwydweithio Cymdeithasol
16/05/2013
Arfau i Fadagascar
Dyluniwyd gan www.elfen.co.uk