
Blas o Undeb Penfro 2012
21/07/2012Roedd y Gynhadledd yng Ngwesty'r Bae, Wdig, Abergwaun. Profodd i fod yn leoliad hynod hwylus a chysurus, gyda'r holl gyfleusterau roedd eu hangen ar gyfer y Cyfarfodydd.
Roedd y defosiwn ar gychwyn y cyfarfodydd yng ngofal Y Parchg Jim Clarke (uchod) ar y deuddydd cyntaf, a'r Parchg Geoffrey Eynon ar y dydd Sadwrn.

Rhoddwyd y Te Croeso yn Neuadd Treletert gan Mr Randall Rees, Caerceri (Cirencester) er cof am ei fam, Mrs Lilian Rees. Cyn y te, dangoswyd eitem a ddarlledwyd gan S4C am Mrs Rees ar achlysur ei phenblwydd yn 100 oed.

