
Blas o Undeb Penfro 2012
21/07/2012
Cafwyd cefnogaeth gref i'r cyfarfodydd. Dyma'r olygfa yng nghapel Penybont, Casblaidd yn yr Oedfa o Fawl. Isod, cyflwynodd y Parchg Euros Wyn Jones ddau weinidog newydd i eglwysi Annibynnol: y Parchedigion Aneurin Owen (chwith) ac Euros Jones Evans (dde).
Y Parchg Jill-Hailey Skeel Harries yn pregethu yn yr Oedfa o Fawl. Sefydlwyd yr achos Annibynnol yng Nghasblaidd gan un o'i chyn-deidiau, y Parchg Thomas Skeel yn 1797.
Er fod y nos yn disgyn, d'oedd neb ar frys i adael Casblaidd.

