
Ymholiad Iaith Iechyd a Gofal
09/08/2012Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi cyhoeddi ymholiad i’r defnydd o'r iaith ym maes iechyd a gofal. Dywedodd Meri Huws (isod), ar Faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llandw, Bro Morgannwg, y bydd hwn yn ymholiad statudol o dan Fesur y Gymraeg 2011.
Cafodd y newyddion ei groesawu gan Undeb yr Annibynwyr, sydd wedi bod yn ymgyrchu ers rhai blynyddoedd i fynnu gofal trwy gyfrwng y Gymraeg i bobl sy’n sâl, yn hen, neu’n fregus.
"Rydym yn falch dros ben bod Meri Huws yn bwriadu gwneud hyn yn flaenoriaeth," meddai Dr Geraint Tudur, Ysgrifennydd Cyffredinol yr Undeb, ar Faes yr Eisteddfod. "Credwn fod hawl sylfaenol gan bobl i gael gwasanaeth trwy gyfrwng y Gymraeg mewn ysbyty neu gartref preswyl yng Nghymru. Mae pobl yn teimlo’n llawer mwy cysurus o gael gofal yn eu hiaith eu hunain."
Yn ogystal â bod yn fater o hawl sylfaenol, mae cleifion gyda dementia a phobl sydd wedi dioddef strôc yn aml yn colli’r gallu i siarad eu hail-iaith – sef Saesneg. Dylid cofio hefyd fod nifer o blant bach yn uniaith Gymraeg i bob pwrpas. Gall peidio â darparu gwasanaeth ar gyfer y fath bobl yn Gymraeg fod yn fethiant clinigol neu feddygol.
Dywedodd Meri Huws y bydd adroddiad yn cael ei gyhoeddi ar ddiwedd cyfnod yr ymholiad, gydag argymhellion pendant yn cael eu rhoi ger bron Llywodraeth Cymru, Byrddau Iechyd ac awdurdodau lleol.
MWY: www.bbc.co.uk/newyddion/19169140
www.golwg360.com/newyddion/81701-maes-iechyd-ymgynghoriad-cyntaf-comisiynydd-y-gymraeg

