
Cyfarfodydd Cofio Canmlwyddiant Gwynfor
04/09/2012Nos Sadwrn ddiwethaf, bu cyfarfod banerog o gwmpas y gofeb bresennol i Gwynfor Evans ar y Garn Goch ger Llangadog, lle taenwyd ei lwch ar ôl ei angladd yn 2005.
Cyhoeddwyd apêl genedlaethol i osod cofeb deilwng iddo
yn nhref Caerfyrddin erbyn 2016, sef hanner canmlwyddiant is-etholiad 1966. Ymhlith y siaradwyr roedd y Parchg Rhodri Glyn Thomas AC. Llywyddwyd yr achlysur gan y Cynghorydd Sian Thomas, Cadeirydd Cyngor Sir Gaerfyrddin.
Drannoeth, daeth dros 200 o bobl ynghyd yng nghapel y Priordy, Caerfyrddin, mewn oedfa arbennig. Y thema oedd CRIST, CYMRU A CHYMOD: y drindod oedd yn sylfaenol i fywyd Gwynfor.

