Ysgrifennydd Gweinyddol
Eirwen Ann Williams

Brodor o Glynarthen yng ngodre Ceredigion yw Ann, ac fe'i maged yn y Barri. Wedi derbyn ei haddysg yn Ysgol Gyfun Rhydfelen, aeth yn ei blaen i ennill cymwysterau yn y byd ariannol. Treuliodd yn agos i ugain mlynedd yn gweithio i fanc Barclays gan dreulio'r rhan fwyaf o'i gyrfa yn gweithio yn ne Ceredigion a Phenfro. Fe'i penodwyd yn Ysgrifennydd Gweinyddol yr Undeb yn 1998. Y mae'n aelod yn Eglwys Annibynnol Brynteg, Gorseinon.

