Apêl De Affrica
Mae'r Apêl fawr bellach wedi dod i ben. Bu’n hynod o lwyddiannus. Diolch i haelioni eglwysi ac aelodau llwyddwyd i godi £205,000.
Ar adeg pan fo galw am gymorth o sawl rhan o'r byd yn codi ar fyr rybudd yn sgil rhyfel neu drychineb naturiol, roedd codi swm sylweddol tuag at Dde Affrica, lle nad yw'r angen yn cael yr un sylw cyhoeddus, yn dipyn o her.

"Llawenydd mawr i mi yma yn y swyddfa oedd gweld llif yr arian yn cynyddu wrth i’r misoedd fynd heibio," meddai Delyth Evans (uchod), o Tŷ John Penri. "Tua £130,000 oedd wedi cyrraedd erbyn Cyfarfodydd Blynyddol yr Undeb yn Llysfasi y llynedd, ond ers hynny mae’r cyfanswm wedi chwyddo i £205,000. Diolch o galon i bawb fu wrthi’n cyfrannu mewn unrhyw fodd."
"Yr wyf yn teimlo balchder mawr fod unigolion ac eglwysi’r Annibynwyr wedi bod mor hael â’u hamser a’u harian" meddai’r Parchg Tom Defis, Cymorth Cristnogol. "Bydd hyn yn sicrhau mwy o adnoddai i gefnogi ymdrech partneriaid Cymorth Cristnogol, sydd yn gweithio ar brosiectau HIV/Aids, dosbarthu tir a nerthu’r tlawd, ac yn arbennig i roi gobaith i’r plant yn Ne Affrica."
Cofio’r Angen
Yng nghyfnod paratoi’r apêl, bu Tom Defis, Delyth Evans a Glyn Williams o’r Trallwng yn ymweld â’r prosiectau yn Ne Affrica. Mae Glyn yn cyfaddef nad oedd yn awyddus iawn i fynd am na wyddai sut y byddai’n ymdopi â'r hyn a welai.
"Ond mor falch r'wyf erbyn hyn i mi ymateb a mynd. Hyderaf fod y profiadau a gefais, ac a geisiais eu rhannu wrth ddweud y stori ar ôl dychwelyd fel y mae pethau yn Ne Affrica, wedi bod o gymorth i bobl gefnogi'r Apêl yn ariannol. Gwn y bydd croeso mawr gan bartneriaid Cymorth Cristnogol i'r gefnogaeth ariannol a dderbynnir ganddynt."
Glyn a Tom yn Ne Affrica gyda Moira Jones, elusen Wola Nani

