Annibynwyr Title
 
 
 
 

Yr Ysgrifennydd Cyffredinol

Y Parchg Ddr Geraint Tudur

dr geraint tudur

Brodor o Fangor yw'r Parchg Ddr Geraint Tudur, ac un a dreuliodd un-mlynedd-ar-bymtheg yn weinidog Eglwys Ebeneser, Caerdydd, cyn symud ym 1994 i Brifysgol Cymru, Bangor, i ddysgu Hanes yr Eglwys. Wedi deuddeng mlynedd yno, etholwyd ef i'w swydd bresennol, a dechreuodd ar ei waith fel Ysgrifennydd Cyffredinol ar ddechrau Medi 2006.

Cyfrifoldeb yr Ysgrifennydd Cyffredinol yw cynnig arweiniad, ysgogi gweithgarwch a hyrwyddo holl bolisïau'r Undeb gan gynnwys y rhai sy'n ymwneud â'r genhadaeth. Mae hefyd yn cynnig gofal bugeiliol i'r Cyfundebau, yr eglwysi a'r gweinidogion. Mae'n cynrychioli'r Undeb yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol, ac yn cadw mewn cysylltiad cyson â'i gyd-swyddogion cyfatebol mewn enwadau eraill.

Newyddion
News
03/09/2010
Ymgyrch Genhadol yn Rhydaman
02/09/2010
Ymgyrch Hawliau Henoed yn Parhau
16/08/2010
Ail Flwyddyn Brysur Sian
Dyluniwyd gan www.elfen.co.uk