Cyn-Lywydd
Y Parchg Andrew Lenny, gweinidog Seion, Aberystwyth, oedd Llywydd yr Undeb am y cyfnod 2010-2012.
Yn enedigol o bentre Brechfa yn Sir Gaerfyrddin, dechreuodd ei yrfa fel athro gan ddod yn Bennaeth Addysg Grefyddol yn Ysgol Gyfun Porthcawl.
Codwyd Andrew i'r weinidogaeth yn eglwys y Tabernacl, Penybont-ar-Ogwr, ac wedi cyfnod yn y Coleg Coffa yn Abertawe, cafodd ei ordeinio a'i sefydlu yn weinidog Seilo, Nantyffyllon, a Dyffryn y Caerau. Bu'n weinidog Seion, Baker Street, er 1987.

