Annibynwyr Title
 
 
 
 

Amdanom Ni

Gweithredir yn bennaf drwy Gyngor yr Undeb, a’i chwe Adran – Cenhadaeth, Teulu, Cyllid, Eglwysi a’u Gweinidogaeth, Addysg a Chyfathrebu, a Dinasyddiaeth Gristnogol.

Mae’r Pwyllgor Gweinyddol yn gweithredu fel pwyllgor gwaith ac yn cyfarfod fel rheol ddwywaith y flwyddyn i drafod ystod eang o bynciau. Mae’n atebol i’r Cyfarfodydd Blynyddol.

Cynhelir y Cyfarfodydd Blynyddol yn yr haf dros dri diwrnod.

Y Tyst
Dan olygyddiaeth y Parchg Hywel Wyn Richards cyhoeddir ein papur, Y Tyst, yn wythnosol. (hywelwyn@talktalk.net)


Hanfod Annibyniaeth yw bod pob eglwys unigol yn uniongyrchol atebol i Iesu Grist fel ei Harglwydd. Oherwydd hynny, erys yr awdurdod ar bob penderfyniad gyda’r gynulleidfa o aelodau cyflawn, ac ni all unrhyw gorff allanol ei gorfodi i weithredu yn groes i'w dymuniad. Er yn annibynnol o ran eu hatebolrwydd, eglwysi mewn cymdeithas ag eglwysi eraill yw eglwysi Annibynnol Cymru. Nid yw bod yn Annibynnol yn golygu bod yn ynysig.

Tasg yr Undeb yw darparu a chynghori ac ysbrydoli, a bod yno at wasanaeth yr eglwysi yn ôl eu dymuniad.

Pwyllgor Llywio Apel Cymorth Cristnogol, 2008-09

  


 

 

 

 

 

 

Llun:Delyth Evans

Pwyllgor Llywio Apel Cymorth Cristnogol 2008-09. O'r chwith i'r dde: (Cefn) Gareth Morgan Jones, Geraint Tudur, Dewi Myrddin Hughes a Max Khanna (un o staff Cymorth Cristnogol). (Blaen) Ann Williams, Robin Samuel (eto o blith staff Cymorth Cristnogol) a Hywel Wyn Richards.

Newyddion
News
18/07/2008
Hanes y Llywydd Newydd
15/07/2008
Cannoedd yn y 'Sul Sbesial'
09/07/2008
Oedfa Cofio Cenhadwr China
Dyluniwyd gan www.elfen.co.uk