Y Llywydd
Y Parchg J Ronald Williams, Caernarfon yw Llywydd yr Undeb am y cyfnod 2012-14.
Cafodd ei eni yng Nglynarthen, de Ceredigion a'i ordeinio ym 1971 ym Methania, Cwmafan. Ar ôl pum mlynedd, symudodd i'r Tabernacl, Penybont-ar-ogwr, ac oddi yno i Salem, Caernarfon ym 1979. Ym 1999, ehangodd ei ofalaeth trwy gael ei sefydlu yn weinidog ar eglwys y Tabernacl, Porthaethwy.

