Logo'r Undeb
Mae logo Undeb yr Annibynwyr yn dangos croes gyda Beibl agored yn ei chanol ac allwedd yn gorwedd drosto. Mae’r allwedd yn cyfleu mai Gair Duw yn y Beibl yw’r cyfrwng i ddatgloi dirgelion bywyd a chyfrinachau holl ymwneud Duw â’r byd. Trwy’r Gair hefyd y mae drws yr iachawdwriaeth y mae Duw wedi ei darparu ar ein cyfer yn Iesu Grist yn cael ei agor, a thrwy hynny ddrws y Deyrnas (gweler Mathew 16:19).
Dynoda’r goron ddrain ar ben uchaf y groes ddioddefaint a marw aberthol Iesu Grist ynghyd ag egwyddor hunanaberth, sydd mor ganolog i Gristnogaeth. Dynoda’r winwydden sy’n amgylchynu’r groes, ac sydd wedi ei gwreiddio ynddi, fod bywyd yr eglwys a’r disgybl yn dibynnu’n llwyr ar Iesu Grist, y Wir Winwydden; ar yr un pryd, mae’n gyfrwng i’n hatgoffa o’r angen i ni ddwyn ffrwyth er gogoniant Duw (gweler Ioan 15). Mae’r cylch sy’n gefndir i’r winwydden yn cynrychioli cyfanrwydd bywyd ac yn rhoi naws Celtaidd i’r logo.
Defnyddiwyd y logo gyntaf ar ddechrau’r 1960au, felly erbyn hyn mae’n agos at fod yn 50 oed.

