Annibynwyr Title
 
 
 
 

Gweinidogaeth Amgen

'Gweinidogaeth yr Holl Saint'
Cyfundeb Gorllewin Caerfyrddin

Dyfarnwyd nawdd o gronfa AGAPE ar gyfer 'Gweinidogaeth yr Holl Saint', gweinidogaeth amgen yng Nghyfundeb Gorllewin Caerfyrddin. Bydd y nawdd yn cyflogi gweithiwr am 10 awr yr wythnos i ddatblygu cyfathrebu ac ysgogi ymateb i anghenion eglwysi sydd am fentro, dan arweiniad arweinyddion lleol, i feysydd newydd.  Bydd ymdrech yn cael ei gwneud i annog  mentrau arloesol o fewn eglwysi unigol, gofalaethau a'r Cyfundeb, ac i sicrhau cefnogaeth iddynt.  

Llongyfarchiadau i dîm gweithgar Cyfundeb Gorllewin Caerfyrddin, a dymuniadau gorau iddynt yn eu trefniadau. Edrychwn ymlaen at gael clywed am y datblygiadau ar wefan yr Undeb ac yn Y Tyst.

Newyddion
News
15/08/2008
Gwahodd Undeb 2012 i Sir Benfro
13/08/2008
Powlenni Apêl De Affrica
10/08/2008
Eisteddfod Caerdydd Dydd Sadwrn Olaf
Dyluniwyd gan www.elfen.co.uk