Datblygu
Y Rhaglen Datblygu
Wedi i Raglen Genhadol AGAPE ddod i ben ar ddiwedd 2007, aeth yr Undeb ati i drefnu rhaglen newydd, rhaglen fyddai'n gloywi ein tystiolaeth fel Annibynwyr, ac yn cwrdd â rhai o anghenion yr eglwysi ar yr un pryd.
Yng Nghyfarfodydd Blynyddol yr Undeb yn Abertawe ym mis Gorffennaf 2008, rhoddwyd yr enw 'Rhaglen Datblygu Annibynwyr Cymru' i'r rhaglen hon, a chyhoeddwyd y bydd yn ymestyn hyd o leiaf 2012.
Yn sylfaen i'r rhaglen, mae chwe thema greiddiol:
1. Addysg a Hyfforddi
2. Cynhyrchu Adnoddau
3. Codi Arweinwyr o fewn Eglwysi
4. Rhaglenni Datblygu Eglwysi Unigol
5. Rhaglenni Datblygu Cyfundebau
6. Prosiestau sy'n Ymestyn Allan i'r Gymuned
Lluniwyd y rhaglen hon wedi misoedd o ymgynghori gydag eglwysi, unigolion a phartneriaid eglwysig o fewn Rhanbarth Ewrop CWM, a chyn hir bydd yr Undeb yn cyflwyno cais ffurfiol i CWM am arian i'w gweithredu.
Y tu ôl i'r paratoadau, mae Panel o bobl sy'n cynrychioli amrywiol agweddau o fywyd a gwaith yr eglwysi a'r Undeb. Maent yn cyfarfod unwaith bob tri mis, ac atynt hwy y dylid anfon pob syniad ac awgrym sy'n ymwneud a'r Rhaglen. Mae eu henwau fel a ganlyn:
1. Y Parchg Dewi Myrddin Hughes, Clydach (Cadeirydd y Panel - gweler y llun)
2. Mrs Suzanne Davies, Hermon, Cynwyl Elfed (cynrychiolydd yr Adran Dinasyddiaeth Gristnogol)
3. Y Parchg Angharad Griffith, Dolgellau (cynrychiolydd yr Adran Cenhadaeth)
4. Mrs Carol Evans, Llangynnwr, Caerfyrddin (cynrychiolydd yr Adran Addysg a Chyfathrebu)
5. Mr D. Glyn Williams, y Trallwng (cynrychiolydd yr Adran Cyllid)
6. Mr Tom Price, Porthcawl (cynrychiolydd Adran yr Eglwysi a'u Gweinidogaeth)
7. Y Parchg D. Marc Morgan, Llanbryn-mair (cynrychiolydd yr Adran Teulu)
8. Y Dr Hefin Jones, Caerdydd (cyfetholwyd gan y Panel)
9. Mr Eifion Griffiths, Llandeilo (Trysorydd yr Undeb)
10. Miss Ann Williams, Tŷ John Penri (Ysgrifennydd Gweinyddol yr Undeb)
11. Y Parchg Ddr Geraint Tudur, Tŷ John Penri (Ysgrifennydd Cyffredinol yr Undeb)
Cyn hir, bydd manylion y Rhaglen Datblygu yn cael eu cyhoeddi, a'r gobaith yw y bydd eglwysi a chyfundebau ymhob rhan o'r wlad yn ymuno ynddi. Wedi'r cyfan, Rhaglen Datblygu Annibynwyr Cymru yw hon; fe'i lluniwyd ar ein cyfer ni i gyd, nid ar gyfer rhai ohonom.
Dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau at:
Yr Ysgrifennydd Cyffrednol,
Undeb yr Annibynwyr Cymraeg
Tŷ John Penri,
5 Axis Court,
Parc Busnes Glanyrafon,
Bro Abertawe,
Abertawe
SA7 0AJ

