Datblygu
Y Rhaglen Datblygu
Wedi i Raglen Genhadol AGAPE ddod i ben, aeth yr Undeb ati i drefnu rhaglen newydd a fyddai'n gloywi ein tystiolaeth fel Annibynwyr, ac yn cwrdd รข rhai o anghenion yr eglwysi ar yr un pryd.
Yn Undeb Abertawe (2008), bedyddiwyd 'Rhaglen Datblygu Annibynwyr Cymru' a chyhoeddwyd y byddai'n ymestyn hyd 2013. Yn sylfaen i'r rhaglen, mae chwe thema greiddiol:
1. Llunio Rhaglenni Datblygu ar gyfer eglwysi unigol
FFURFLEN GAIS
2. Codi Arweinyddion o fewn yr eglwysi
3. Cynhyrchu adnoddau i alluogi eglwysi ac unigolion i gyflawni eu cenhadaeth yn fwy effeithiol
4. Sefydlu prosiectau fydd yn galluogi eglwysi i ymestyn allan i'r cymunedau sydd o gwmpas eu capeli
5. Addysg a Hyfforddiant, sef, cyrsiau ffurfiol ac anffurfiol o bob math ar gyfer aelodau ac arweinyddion eglwysi
6. Rhaglenni Datblygu ar gyfer Cyfundebau, i'w galluogi i wneud eu gwaith yn well
Dyma'r Llawlyfr: LLAWLYFR Y RHAGLEN DATBLYGU
Lluniwyd y rhaglen wedi misoedd o ymgynghori gydag eglwysi, gweinidogion, aelodau eglwysi, unigolion a phartneriaid eglwysig o fewn Rhanbarth Ewrop CWM. Dim ond wedyn y cyflwynodd yr Undeb gais ffurfiol i CWM am arian i'w gweithredu. Llawenydd oedd clywed yng Ngorffennaf 2009 fod y cais wedi ei gymeradwyo, a CWM yn barod i roi'r nawdd angenrheidiol.
Fel rhan o'r Rhaglen, bydd cyfle i eglwysi a Chyfundebau ymgeisio am nawdd ariannol ar gyfer prosiectau a gweithgarwch. Dyma'r ffurflen gais Ffurflen Gais Prosiect

