Prosiectau newydd 10
Prosiectau AGAPE
Rownd 10: Dyddiad cau 30 Mehefin 2007
Cafwyd cynhaeaf da o geisiadau i Rownd 10 ac unwaith eto bu saith aelod Grŵp Asesu Prosiectau AGAPE yn darllen a gwerthuso’r ceisiadau a ddaeth i law erbyn 30 Mehefin 2007. Penderfynodd y Grŵp Asesu Prosiectau gymeradwyo’r prosiectau canlynol:
Ysgogydd AGAPE ar ran Undeb yr Annibynwyr
£750 i gyfieithu a dosbarthu llyfryn i gyd-fynd gyda rowndiau terfynol Cwpan Rygbi’r Byd ym mis Medi. Cynnwys y llyfryn wybodaeth am rai o’r chwaraewyr sy’n Gristnogion ynghyd â neges syml i ennyn diddordeb yn yr Efengyl.
Cyfundeb Gorllewin Caerfyrddin
£1,000 i annog aelodau eglwysi’r Cyfundeb i genhadu trwy gyfathrebu á’r gymuned leol; cynnwys hyn paratoi taflen ym mhob eglwys / gofalaeth i’w dosbarthu yn yr ardaloedd.
Panel Ffydd a Threfn Undeb yr Annibynwyr
£1,500 i gyhoeddi taflenni ar bynciau sylfaenol y ffydd Gristnogol gyda’r nod o addysgu a hyfforddi aelodau eglwysi ac eraill yn y sylfeini hynny.
Menter Cydenwadol Gogledd Myrddin
£150 i noddi’n rhannol cost bws i gludo ieuenctid y cylch i Wersyll Haf Coleg y Bala.
Llongyfarchiadau i bawb am eu paratoi a’u parodrwydd i fynd ati o ddifrif i genhadu’r Efengyl. Edrychwn ymlaen at ddarllen am lwyddiant y prosiectau yn nhudalennau’r Tyst yn y dyfodol.
Eisoes derbyniwyd ceisiadau yn Nhŷ John Penri ar gyfer y rownd nesaf - dyddiad cau 30 Medi 2007. Cofiwch mai dim ond dwy rownd sydd ar ôl!

