Prosiectau newydd 7
Prosiectau AGAPE
Rownd 7: Dyddiad cau 30 Medi 2006
Bu’r saith aelod o Grŵp Asesu Prosiectau AGAPE yn darllen a gwerthuso’r ceisiadau a ddaeth i law erbyn 30 Medi 2006. Penderfynodd y Grŵp Asesu Prosiectau gymeradwyo’r prosiectau canlynol:
Eglwys Annibynnol Bethel, Caerffili
£350 ar gyfer datblygu gwaith y Cylch Ymweld trwy baratoi taflen wybodaeth, liwgar a chyfoes i’w dosbarthu ymysg deiliaid stad newydd o dai yng Nghaerffili.
Gofalaeth Eciwmenaidd Dolgellau a Dinas Mawddwy
£750 ar gyfer datblygu cynllun Bwrlwm Bro i genhadu’r Efengyl a moesoldeb Cristnogol ymysg bobl ifanc y cylch. Y gobaith yw cynnal sesiynau Alffa, creu sgriptiau drama a ffilm, a thrafodaethau.
Llongyfarchiadau i aelodau Eglwys Bethel a Gofalaeth Eciwmenaidd Dolgellau a Dinas Mawddwy am eu paratoi a’u parodrwydd i fynd ati o ddifrif i genhadu’r Efengyl. Edrychwn ymlaen at ddarllen am lwyddiant y prosiectau yn nhudalennau’r Tyst yn y dyfodol.
Eisoes derbyniwyd ceisiadau yn Nhŷ John Penri ar gyfer y rownd nesaf - dyddiad cau 31 Rhagfyr 2006.

