Prosiectau newydd 8
Prosiectau AGAPE
Rownd 8: Dyddiad cau 31 Rhagfyr 2006
Unwaith eto, bu saith aelod Grŵp Asesu Prosiectau AGAPE yn darllen a gwerthuso’r ceisiadau a ddaeth i law erbyn 31 Rhagfyr 2006. Penderfynodd y Grŵp Asesu Prosiectau gymeradwyo’r prosiectau canlynol:
Eglwys Siloa Aberdâr
£430 ar gyfer datblygu cyfleoedd marchnata ychwanegol a ffyrdd o ledaenu’r neges Gristnogol yn ardal Siloa Aberdâr. Prif ddiben y prosiect yw dangos bod Eglwys Iesu Grist yn fyw ac yn weithredol yn Aberdâr a Chwm Cynon.
Ysgol Sul Peniel ynghyd â Chylch Eglwysi Cymanfa Moli a Noddi
£600 i gynorthwyo i ffurfio Band "Moli a Noddi" ar gyfer Cymanfaoedd ac oedfaon amrywiol ledled y gymuned. Bwriedir cydweithio â’r ysgol gynradd leol, ynghyd ag eglwysi a chartrefi preswyl yr ardal. Y gobaith yw noddi elusennau dyngarol trwy gyflwyno oedfaon amlgyfrwng mewn lleoliadau newydd drwy’r ardal.
Llongyfarchiadau i aelodau’r eglwysi am eu paratoi a’u parodrwydd i fynd ati o ddifrif i genhadu’r Efengyl. Edrychwn ymlaen at ddarllen am lwyddiant y prosiectau yn nhudalennau’r Tyst ac ar y wefan hon yn y dyfodol.
Eisoes derbyniwyd ceisiadau yn Nhŷ John Penri ar gyfer y rownd nesaf – dyddiad cau 31 Mawrth 2007.

