Annibynwyr Title
 
 
 
 

Prosiectau newydd 9

Prosiectau AGAPE
Rownd 9: Dyddiad cau 31 Mawrth 2007

Derbyniwyd y nifer fwyaf hyd yma o geisiadau ar gyfer Rownd 9. Bu saith aelod Grŵp Asesu Prosiectau AGAPE yn darllen a gwerthuso’r ceisiadau a ddaeth i law erbyn 31 Mawrth 2007. Penderfynodd y Grŵp Asesu Prosiectau gymeradwyo’r prosiectau canlynol:

Menter Gydenwadol Gogledd Myrddin
£300 i gefnogi diwrnod o chwaraeon i blant ac ieuenctid Ysgolion Sul Gogledd Myrddin. Cynhelir y diwrnod chwaraeon yn ystod gwyliau’r Pasg yng Nghanolfan Hamdden Rhydaman.

Mynydd Seion, Solfach
£300 yn gyfraniad penodol i brynu argraffydd i gynhyrchu cyhoeddusrwydd cenhadol, taflenni gwaith, a chylchlythyr, fel rhan o weithgareddau AGAPE yr eglwys (sydd eisoes yn cynnwys dosbarthiadau Beiblaidd a boreau coffi wythnosol).

Eglwys Annibynnol Gymraeg y Barri
£1,100 i gryfhau tystiolaeth trwy "fynd â’r eglwys allan o’r capel". Bwriedir cynnal oedfaon a thrafodaethau mewn adeiladau heblaw'r capel, ac fel cam cyntaf, bydd angen cynhyrchu detholiad o emynau a litwrgi ar gyfer oedfaon o’r fath; llyfryn cenhadol ar gyfer, er enghraifft, newydd-ddyfodiaid, a phamffled lliwgar i ychwanegu at gylchgrawn Y Ddolen.

Dyfarnwyd £900 hefyd i gais gan yr Adran Ieuenctid am gymorth i drefnu diwrnod o hwyl ar gyfer pobl ifanc 11-15 oed mewn pedair canolfan awyr-agored ledled Cymru. Er cyhoeddi yn Y Tyst, siomedig fu’r ymateb o du’r eglwysi a bu’n rhaid gohirio’r trefniadau am gyfnod amhenodol.  

Llongyfarchiadau i aelodau’r eglwysi am eu paratoi a’u parodrwydd i fynd ati o ddifrif i genhadu’r Efengyl. Edrychwn ymlaen at ddarllen am lwyddiant y prosiectau yn nhudalennau’r Tyst yn y dyfodol.

Eisoes derbyniwyd ceisiadau yn Nhŷ John Penri ar gyfer y rownd nesaf - dyddiad cau  30 Mehefin 2007.

Hefin Jones
Cydlynydd Panel Asesu Prosiectau

Newyddion
News
15/08/2008
Gwahodd Undeb 2012 i Sir Benfro
13/08/2008
Powlenni Apêl De Affrica
10/08/2008
Eisteddfod Caerdydd Dydd Sadwrn Olaf
Dyluniwyd gan www.elfen.co.uk