Annibynwyr Title
 
 
 
 

Y Cyfundebau

Bydd y Cyfundebau yn trafod materion sydd o ddiddordeb cyffredinol, yn bynciau ysbrydol, cymdeithasol, addysgol, defosiynol a chenhadol. Maent yn ddolen gyswllt werthfawr rhwng yr Undeb a’r eglwysi, ac ar eu gorau yn hyrwyddo yn effeithiol ymgyrchoedd gwahanol, Apêl Salaam a Shalom a Rhaglen AGAPE, er enghraifft.

O drafodaethau’r Cyfundebau y daw nifer o faterion i agenda’r Cyngor. Cyflawnant waith pwysig hefyd yn lledaenu gwybodaeth ac anogaeth ynglŷn â’r adnoddau a’r cyfleoedd sydd ar gael i’r eglwysi.

  

Logo a chysgod - bach

Erthygl gan yr Ysgrifennydd Cyffredinol, y Parchg Ddr Geraint Tudur, yn pwysleisio pwysigrwydd y Cwrdd Chwarter a'r Cyfundeb. Ymddangosodd gyntaf yn y Y Tyst.




Y Cyfundeb a’r Cwrdd Chwarter

Nid peth anghyffredin y dyddiau hyn yw clywed aelodau eglwysi yn siarad yn fychanus am y Cwrdd Chwarter a’r Cyfundeb. Wrth i lai fynychu’r cyfarfodydd, daeth rhai i’r casgliad nad oes iddynt lawer o werth, a bron yn ddieithriad mae’r sylw hwnnw’n arwain at y cwestiwn, ‘Onid gwell fyddai eu hepgor, a chael gwared ohonynt yn llwyr?’

Yng Ngogledd Morgannwg a Mynwy, daethpwyd yn agos iawn at wneud hynny’n ddiweddar. Oherwydd y trai sydd wedi digwydd ar Gristnogaeth Gymraeg yr ardal, yr oedd y Cwrdd Chwarter wedi mynd yn Gwrdd Hanner Blynyddol, a dim ond pump neu chwech o’r 22 o eglwysi y Cyfundeb yn anfon cynrychiolwyr i’r cyfarfodydd. Yr oedd digalondid oherwydd y sefyllfa, a dechreuodd trafodaeth ynglŷn â dirwyn y Cyfundeb i ben. Trefnwyd pleidlais i wneud y penderfyniad yn un dilys a theg, ond wrth bleidleisio, dyna pryd y sylweddolodd yr eglwysi ddifrifoldeb yr hyn yr oeddent ar fin ei wneud.

Newyddion
News
15/08/2008
Gwahodd Undeb 2012 i Sir Benfro
13/08/2008
Powlenni Apêl De Affrica
10/08/2008
Eisteddfod Caerdydd Dydd Sadwrn Olaf
Dyluniwyd gan www.elfen.co.uk