Yr Eglwysi
Gofynnwyd yn syml, ‘Pan fydd y Cyfundeb wedi ei ddileu, pwy fydd yn gofalu am fuddiannau’r eglwysi brau sydd yn yr ardal hon?’ Yr ateb oedd, ‘Neb.’ Byddai pob eglwys Annibynnol yn gorfod gofalu amdani ei hun, heb berthyn i unrhyw gymdeithas na chymuned leol o eglwysi fyddai’n gofalu am ei gilydd.
Yr oedd dychmygu’r fath sefyllfa yn boen a gofid i bobl Gogledd Morgannwg a Mynwy, a dyna pryd y daeth ‘awel’ i chwythu yn eu plith. Mynegodd rhai edifeirwch eu bod wedi gadael i bethau lithro mor bell, a soniodd eraill am ail-gydio ynddi a gwneud ymrwymiad i gefnogi’r Cwrdd Chwarter o hyn ymlaen. Soniwyd am gynyddu rhif y cyfarfodydd o ddau i dri y flwyddyn, a llunio rhaglen fyddai’n caniatáu i gynrychiolwyr eglwysi ddod at ei gilydd i gymdeithasu ac i weddïo. Dywedwyd y dylai’r Cwrdd Chwarter fod yn rhywbeth y dylai aelodau eglwysi fod yn edrych ymlaen at fynd iddo, ac yn yr ysbryd hwnnw yr aethpwyd ati i ethol swyddogion newydd ac i baratoi ar gyfer y dyfodol.
Y gwir amdani yw bod Annibynwyr Gogledd Morgannwg a Mynwy wedi bod at erchwyn y dibyn ac wedi edrych drosodd. Yr oedd yr hyn a welsant yn achos braw iddynt. Mae’r Cyfundebau’n bodoli er mwyn i eglwysi fedru cymdeithasu, trefnu gweithgarwch ar y cyd, edrych ar ôl ei gilydd, cynnal ei gilydd a bugeilio’i gilydd. Gwae ni os y collwn olwg ar hynny a mynd yn esgeulus o’n dyletswydd i ofalu am ein gilydd.
Ymhob rhan o’r wlad erbyn hyn mae eglwysi brau, ac mae eu rhif yn cynyddu gyda phob blwyddyn sy’n mynd heibio. Yn y cyfnod anodd hwn, yr ydym angen ein gilydd, felly cefnogwn ein Cwrdd Chwarter a’n Cyfundebau. Cyfarfodydd ydynt i ni wneud cyfraniad trwyddynt, nid eu sarhau. Fel pobl yr Arglwydd sy’n awyddus i wasanaethu ac i roi mynegiant i’n fydd, awn ati felly.
Geraint Tudur

