Yr Eglwysi
Ceir manylion yr eglwysi unigol o dan Cyfundebau (chwith).
Mae pob eglwys o fewn ffiniau un o’r 15 Cyfundeb - 14 yng Nghymru ac 1 yn Lloegr.
Yn draddodiadol, mae'r Cyfundebau'n cyfarfod mewn Cwrdd Chwarter, neu'n llai aml mewn ambell achos. Yn fanwl, nid Cyfundeb o eglwysi ydynt ond o Annibynwyr yr ardal honno, gan na fyddant yn arferol yn cynrychioli’r eglwysi yn ffurfiol nac yn tynnu dim oddi ar annibyniaeth eglwysi unigol.
Cyfarfod dathlu yn Ffynnonbedr, ger Meidrim Sir Gaerfyrddin.
Mae'r Cyfundebau yn trafod materion sydd o ddiddordeb cyffredinol, yn bynciau ysbrydol, cymdeithasol, addysgol, defosiynol a chenhadol. Maent yn ddolen gyswllt werthfawr rhwng yr Undeb a’r eglwysi, ac ar eu gorau yn hyrwyddo yn effeithiol ymgyrchoedd gwahanol - megis Apêl De Affrica a Rhaglen Datblygu'r Annibynwyr.
O drafodaethau’r Cyfundebau y daw nifer o faterion i agenda’r Cyngor. Cyflawnant waith pwysig hefyd yn lledaenu gwybodaeth ac anogaeth ynglŷn â’r adnoddau a’r cyfleoedd sydd ar gael i’r eglwysi.
Tudalen Nesa : Erthygl am Y Cyfundeb a'r Cwrdd Chwarter

