Cyrsiau Coleg yr Annibynwyr
Mae’r cyrsiau hyn yn cynnig hyfforddiant pellach i aelodau sy’n dymuno bod yn arweinwyr lleol, yn bregethwyr cynorthwyol neu yn weinidogion yr efengyl. [Manylion Tymor Hydref 2007 : tudalen 2]
Yr ydym yn cyfarfod y myfyrwyr mewn gwahanol ganolfannau yng Nghymru (Bangor, Machynlleth, Caerwys, Caerfyrddin, Aberdâr, Caerdydd) bob pythefnos yn ystod y tymor colegol ac unwaith mewn ysgol Sadwrn i’r holl fyfyrwyr yn Aberystwyth.

Ysgol Sadwrn Ionawr 2007
Yr ydym yn canolbwyntio ar bedwar maes yn arbennig:
Dehongli’r Beibl; Hanes yr Eglwys; Athrawiaeth Gristnogol; Bugeilio.
Cynigir tri modiwl ymhob un o’r meysydd hyn yn flynyddol ac os yw’r myfyriwr yn dymuno gellir cael credydau Prifysgol Cymru am y gwaith. O gwblhau y 12 modiwl gellir cael Diploma mewn Diwinyddiaeth Prifysgol Cymru. Mae cyfle i rai sydd wedi ennill Diploma (neu gyfatebol) i fynd ymlaen i ennill naill ai Gradd Baglor Diwinyddol (B.Th.) neu Baglor mewn Diwinyddiaeth (B.D.).
Achredir yr holl gyrsiau gan Goleg Prifysgol Cymru, Llanbedr Pont Steffan. [Uchod : Dwy yng Nghaerfyrddin yn astudio'r Hen Destament]

