Hyfforddiant
Bu Undeb yr Annibynwyr Cymraeg a Choleg yr Annibynwyr Cymraeg yn cydweithio ym maes hyfforddiant ers blynyddoedd. Amcan y ddau sefydliad yw gwasanaethu’r eglwysi er mwyn eu galluogi i gyflawni eu cenhadaeth yn y Gymru gyfoes. Llwyddodd y cyrsiau allanol eisoes i godi nifer o weinidogion a phregethwyr ac arweinwyr lleol i wasanaethu’r eglwysi.
Ydy’ch eglwys neu’ch gofalaeth chi am help i feithrin a hyfforddi arweinwyr newydd neu i drefnu ac arwain addoliad, i gynnal dosbarthiadau beiblaidd bywiog neu i wneud gofal Cristnogol yn yr eglwys a’r gymdogaeth yn fwy effeithiol? Os ydych, y mae help wrth law, drwy’r Undeb a’r Coleg. Cysylltwch â Noel Davies ar 01267 676626 neu 01792 203693.

Yma ceir manylion am y cyrsiau sydd ar gael o dan nawdd y Coleg, am ddosbarthiadau sydd eisoes yn cael eu cynnal ac am bosibliadau ar gyfer eich eglwys neu’ch gofalaeth neu ar gyfer unigolion sydd â diddordeb mewn agwedd arbennig o fywyd a thystiolaeth yr eglwys ac yn awyddus i dderbyn hyfforddiant ar gyfer hynny, holwch Dr Noel Davies [chwith].
[Cynhelir cyrsiau tebyg yng Ngogledd Cymru hefyd.]

