Annibynwyr Title
 
 
 
 

Hyfforddi 2013

Cyrsiau Hyfforddi yr Annibynwyr

Tyfu ac arwain yn yr eglwys.  Cyrsiau ar gyfer aelodau eglwysi lleol yw’r rhain wedi eu bwriadu i’w helpu i wasanaethu mewn amrywiol ffyrdd yn eu heglwys neu eu gofalaeth leol. Y mae nifer o gysriau ar gael neu gellir datblygu cyrsiau i gyfarfod gofynion lleol : 

Arwain yn yr eglwys: Cwrs hyblyg i arweinwyr lleol. Datblygir cyrsiau i gwrdd  â gofynion lleol, gan ddefnyddio rhai o’r adnoddau uchod. Gellir cynnwys sesiynau ar:

-         Trefnu Oedfaon

-         Defnyddio’r Beibl

-         Gweinyddu Bedydd a Chymundeb

-         Gofalu am yr Hen a’r Afiach

-         Bugeilio Galar a Threfnu Angladdau

-         Gwasanaethu’r Gymdogaeth

-         Cyfathrebu Effeithiol

-         'Dysg inni weddïo'

-         Meithrin Disgyblion

-         Adeiladu’r Eglwys

Gofal Cristnogol: Mae hwn hefyd yn gwrs hyblyg wedi ei fwriadu i helpu’r sawl sy’n cyflawni’r dasg ganolog ym mywyd unrhyw eglwys leol, sef, gofalu am aelodau’r eglwys ei hun a phobl yn y gymuned y mae’n rhan ohoni. Gellir addasu’r cwrs i gyfarfod â gofynion lleol ond y mae’r elfennau canlynol yn awgrymu prif gynnwys y cwrs:

·         Beth yw gofal Cristnogol?

·         Gofal Cristnogol ac adeiladu’r eglwys

·         Gofalu mewn salwch a phrofedigaeth

·         Gofal Cristnogol yn y gymdeithas

·         Addoliad, gweddi a gofalu

·         Crynhoi meddyliau: y camau nesaf?

Dehongli’r Beibl: Cyrsiau sy’n defnyddio gwahanol ffyrdd o ddehongli ac astudio’r Beibl (e.e. drwy luniau, drwy edrych ar y Beibl mewn cyd-destun cyfoes), er mwyn magu hyder i ddefnyddio’r Beibl yn eich eglwys leol.

Newyddion
News
16/05/2013
Y Gymraeg a Christnogaeth
16/05/2013
Rhwydweithio Cymdeithasol
16/05/2013
Arfau i Fadagascar
Dyluniwyd gan www.elfen.co.uk