Hyfforddi 2013
Cyrsiau trwy Goleg yr Annibynwyr
A. CWRS SYLFAEN : Y mae pedwar modiwl i’r cwrs hwn:
Addoli a chenhadu
Sylfeini’r Ffydd
Themâu’r Beibl
Hanes ac arbenigrwydd ein traddodiadau
Nid oes rhaid gwneud gwaith ysgrifenedig ond gellir cwblhau taflenni gwaith os yw’r myfyriwr am fynd ymlaen i ddilyn cyrsiau pellach.
B. TYSTYSGRIF PREGETHWYR CYNORTHWYOL Pedair uned sydd yn y cwrs hwn:
Dehongli’r Beibl
Addoli
Pregethu
Yr Eglwys a’i Chenhadaeth
Disgwylir gwaith ysgrifenedig, yn cynnwys traethodau, oedfaon a phregethau. Dyfernir tystysgrif i’r sawl a fydd wedi cwblhau’r cwrs yn llwydiannus, a chydnabyddir hynny gan y Cyfundeb.
C. TYSTYSGRIF COLEG YR ANNIBYNWYR
Amcan y cwrs hwn yw cynnig hyfforddiant ar gyfer y weinidogaeth Gristnogol. Bydd yn ymestyn dros dair blynedd. Astudir tair uned yn flynyddol (yn unol â’r cynllun a amlinellir o dan CH isod) mewn dosbarthiadau a gynhelir mewn canolfannau lleol. Disgwylir gwaith ysgrifenedig a dyfernir Tystysgrif y Coleg i bawb sy’n cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus.

