Hyfforddi 2013
Cyrsiau sy’n cael eu cynnal ar hyn o bryd:
Mae amrywiol gyrsiau yn cael cynnal mewn gwahanol fannau ar hyd a lled Cymru bob blwyddyn, gan gyflwyno pynciau fel Hanes Cristnogaeth yng Nghymru, Yr Hen Destament, Sylfeini’r Ffydd, Addoli a Phregethu, a Gofal Cristnogol.
Os am fanylion pellach am y cyrsiau sy'n cael eu cynnal yn awr, cysylltwch â'r Parchg Euros Wyn Jones (yn y gogledd: 01248-372500) neu'r Parchg Aled D. Jones (yn y de: 01267-229167).
Beth am drefnu Gweithdy i Weinidogion yn eich ardal neu’ch Cyfundeb chi? Gellir ymateb i ofynion a diddordebau lleol ond dyma ddau awgrym:
· CYMORTH GYDA PHREGETHU HEDDIW: Gweithdy sy’n edrych ar ofynion pregethu heddiw ac yn ystyried adnoddau amrywiol sydd ar gael i’n helpu i wneud y dasg hollol ganolog hon yn fwy effeithiol.
· YSGOGI NEWID: Mewn byd a chymdeithas sy’n newid mor gyflym, sut mae ysgogi’r eglwysi i newid i gwrdd â gofynion newydd y gymdeithas a’r eglwys. Gall hwn fod yn weithdy un sesiwn neu’n gyfres o weithdai dros dymor yr hydref a’r gaeaf.
Os hoffech drafod cyrsiau tebyg ar gyfer eich cylch chi, neu os oes gennych ddiddordeb mewn pynciau na sonnir amdanynt ar y tudalennau hyn, neu os hoffech ddilyn cwrs hyfforddi ar gyfer pregethwyr cynorthwyol neu’r weinidogaeth cysylltwch â’r Parchg Euros Wyn Jones, Y Coleg Gwyn, Bangor 01248-372500 neu Euros@annibynwyr.org

