Hyfforddi 2013
Bu Undeb yr Annibynwyr Cymraeg a Choleg yr Annibynwyr Cymraeg yn cydweithio ym maes hyfforddiant ers blynyddoedd. Amcan y ddau sefydliad yw gwasanaethu’r eglwysi er mwyn eu galluogi i gyflawni eu cenhadaeth yn y Gymru gyfoes. Llwyddodd y cyrsiau allanol eisoes i godi nifer o weinidogion a phregethwyr ac arweinwyr lleol i wasanaethu’r eglwysi.
A yw eich eglwys neu’ch gofalaeth chi am help i feithrin a hyfforddi arweinwyr newydd neu i drefnu ac arwain addoliad, i gynnal dosbarthiadau beiblaidd bywiog neu i wneud gofal Cristnogol yn yr eglwys a’r gymdogaeth yn fwy effeithiol? Os ydych, y mae help wrth law, drwy’r Undeb a’r Coleg. Cysylltwch â : undeb@annibynwyr.org neu Tŷ John Penri : 01792 795888.
Yma ceir manylion am y cyrsiau sydd ar gael o dan nawdd y Coleg,
am ddosbarthiadau sydd eisoes yn cael eu cynnal ac am bosibliadau ar gyfer eich eglwys neu’ch gofalaeth. Mae gwybodaeth yma hefyd ar gyfer unigolion sydd â diddordeb mewn agwedd arbennig o fywyd a thystiolaeth yr eglwys ac sy'n awyddus i dderbyn hyfforddiant ar gyfer hynny.
Os hoffech wybod mwy am y cyrsiau sydd ar gael ar hyn o bryd, cysylltwch gyda'r Parchg Euros Wyn Jones ar 01248-372500 neu Euros@annibynwyr.org

