Addysg a Chyfathrebu
Enghreifftiau o weithgarwch yr Adran:
Cyngor Ysgolion Sul Cymru
Gan fod llwyddiant y Cyngor yn dibynnu ar effeithiolrwydd y ddau swyddog maes, mae’r Adran yn rhoi pwysau ar y Cyngor i chwilio am gyllid newydd er mwyn cynnal y gwaith a chadw’r swyddi.
Y Tyst

Sefydlwyd gweithgor i ystyried dyfodol Y Tyst. Penderfynwyd ar ymgyrch i berswadio mwy o aelodau i ddarllen Y Tyst, gan ofyn i bob eglwys brynu copi bob wythnos i ddegfed ran o’i haelodaeth.
Cwpan Denman
Cynhelir cystadleuaeth flynyddol i ddatblygu dulliau cyfathrebu ymysg ein plant a’n hieuenctid. Bydd dwy gystadleuaeth eleni eto:
1. Cystadleuaeth siarad cyhoeddus i ddisgyblion Ysgolion Cyfun; testun - 'Pwy yw fy nghymydog?'. Caniateir pum munud i bob siaradwr.
2. Gêm gyfrifiadurol Gristnogol, ar ffurf 'story-board' a sgript. Agored i bob oed yn yr Ysgol Sul.

