Cenhadaeth a’r Eglwys Fyd-Eang
Y mae Undeb yr Annibynwyr Cymraeg yn perthyn i Gyngor y Genhadaeth Fyd-Eang (CWM). Pwysleisia CWM:
- bod y prif gyfrifoldeb dros genhadu yn perthyn i’r eglwys leol
- y dylai adnoddau’r eglwys fyd-eang fod ar gael i’r eglwys leol
- bod yr enwadau sy'n perthyn iddo am rannu eu hadnoddau: arian, pobl, gweledigaeth, sgiliau a chefnogaeth.
Meithrin perthynas, i helpu eraill a thyfu’n hunain, yw un o brif fwriadau’r Adran. Mae’n cynnwys ymwneud â CWM ac ag enwadau Cymru, yn arbennig drwy CYTÛN.

