Cenhadaeth a’r Eglwys Fyd-Eang
Enghreifftiau o weithgarwch yr Adran:
Y mae ein haelodaeth o CWM a CWM Ewrop yn cynnig cyfleoedd i bobl ehangu gorwelion a dyfnhau ffydd. Aeth rhai i gynhadledd yn Ne Affrica ac eraill i wersylloedd yn yr Iseldiroedd ac Ynysoedd Erch. Rhwng haf 2005 a haf 2006, bu dau o’n pobl ifanc yn aelodau o’r Tŷ Cenhadol yn Amsterdam. Yn Hydref 2007 aeth merch ifanc i Botswana, ac ym mis Tachwedd bu un o'n gweinidogion i Corea.
Mae CWM yn rhoi pwyslais mawr ar fynd i’r afael â’r rhwystrau sy’n cadw gwragedd a dynion rhag cyfranogi’n llawn ym mywyd a chenhadaeth yr eglwys. Trefnir bod timau rhyngwladol yn ymweld â’r enwadau i feithrin tegwch i wragedd. Lle nad oes tegwch caiff y merched a’r eglwysi eu tlodi. Bydd un o’r ymweliadau hyn yn digwydd yma yng Nghymru yn Chwefror a Mawrth 2007
Cynhaliwyd Cynhadledd Genhadol CWM Ewrop am wythnos ym mis Awst yng nghanolfan y Crusaders nepell o Cleobury Mortimer, ychydig dros y ffin yn Lloegr. Yr oedd nifer o Annibynwyr Cymru yn bresennol, a chyfanswm o dros 100 o bobl wedi dod at ei gilydd.
Cafodd Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol Rhanbarth Ewrop o CWM ei gynnal yng Nghaerdydd ar ddiwedd mis Medi 2007. Eglwys Bresbyteraidd Cymru oedd wedi gwahodd y tro hwn, ac yr oedd pump o Annibynwyr yn bresennol.
Mae'r Adran ar hyn o bryd yn datblygu rhaglen genhadol fydd yn rhedeg ochr yn ochr â Rhaglen Genhadol gweddill yr Undeb. Bydd hon yn cael ei thrafod yng nghyfarfod nesaf yr Adran yn ystod y Cyngor yng Ngregynog ym mis Mawrth 2008.
Ceir dogfennau'n ymwneud ag amrywiol weithgarwch yr Adran ar y dudalen hon.

