Annibynwyr Title
 
 
 
 

Cyllid

Mae’r Undeb, dros y blynyddoedd, wedi dibynnu yn helaeth ar ei fuddsoddion, a’r incwm sy’n deillio ohonynt. Oherwydd hynny, un o brif gyfrifoldebau’r Adran yw llunio ac adolygu polisi buddsoddi yr Undeb. Mabwysiadwyd canllawiau ar gyfer buddsoddi moesegol a chyfrifol, ac adolygir y canllawiau hynny yn ôl yr angen.

Enghreifftiau o weithgarwch yr Adran:

Buddsoddion: Yn 2005, ail-strwythurwyd y patrwm buddsoddi er mwyn sicrhau incwm digonol i hybu a chynnal gweithgarwch yr Undeb. Cytunwyd y dylid adolygu’r canllawiau buddsoddi moesegol a derbyniwyd arweiniad a chyngor gan Gyngor y Genhadaeth Fyd-Eang (CWM).

Y Drysorfa Gynorthwyol: Mae aelodau’r Adran yn ymwybodol iawn o bwysigrwydd y cymorth a estynnir i gylchoedd o eglwysi i gynnal gweinidogaeth lawn-amser. Gwneir apêl arbennig ar i’r eglwysi gyfrannu’n hael at y Drysorfa Gynorthwyol, er mwyn hybu’r dystiolaeth Gristnogol yn ein plith, a’n galluogi i gynorthwyo cymaint o eglwysi ag y gallwn.

Rhaglen AGAPE: Cytunwyd yng nghyfarfod yr Adran, ym Mawrth 2005, ein bod yn gwneud apêl arbennig i’r eglwysi am gyfraniadau tuag at Raglen AGAPE, canolbwynt gweithgareddau’r Undeb am y cyfnod 2005-2007. Gwnaed hynny yng ngwanwyn 2006, a gosodwyd nod o £5 yr aelod i bob eglwys.

Newyddion
News
18/11/2008
Ymwelydd De Affrica : Lle a Phryd
12/11/2008
Help i Feithrin Arweinwyr yn 2008-9
10/11/2008
Diwrnod i Weinidogion Annibynnol y Gogledd
Dyluniwyd gan www.elfen.co.uk