Cyllid
Cadeirydd: Y Trysorydd
Ysgrifennydd: Yr Ysgrifennydd Gweinyddol
Dyma’r Adran sy’n gyfrifol am ofalu am gronfeydd ariannol a buddsoddion Undeb yr Annibynwyr Cymraeg, ynghyd ag adolygu gwariant, cyllidebau a chynlluniau ariannol yr Adrannau. Bydd yr Adran yn cwrdd yn ôl y galw, ond bydd yn gwneud hynny o leiaf unwaith y flwyddyn adeg y Cyngor.
Yr Adran sydd yn penderfynu lefelau tanysgrifiadau’r eglwysi, y cyfundebau a’r aelodau personol, a rhoddir ystyriaeth ddwys a gofalus i faterion megis isafswm cydnabyddiaeth gweinidogion, ac amodau a lefelau benthyciadau i eglwysi a gweinidogion. Cynigir arweiniad a chyngor i’r eglwysi ar ystod eang o bynciau, gan gynnwys materion ariannol, cyfreithiol, a materion yn ymwneud ag adeiladau eglwysig.

