Dinasyddiaeth Gristnogol
Bydd yr Adran yn cyfarfod ddwywaith y flwyddyn. Yng nghyfarfod yr hydref, canolbwyntir ar bynciau penodol; clonio a cheiswyr lloches (2003), cenedlaetholdeb a chynaladwyaeth (2004), meddygaeth gymunedol (2005) a strategaeth gwaith yr Adran (2006)
Yr Adran sydd hefyd, law-yn-llaw â Chymorth Cristnogol, yn arwain apeliadau’r Undeb; bu eglwysi’r Annibynwyr yn gweithredu er mwyn Swdan (1998) a thrigolion Tiroedd y Meddiant (2004).
Mae Swyddogion yr Adran yn weithredol ar nifer o bwyllgorau cyd-enwadol gan gynnwys: Pwyllgor Cymru, Cymorth Cristnogol; Rhwydwaith Materion Amgylcheddol a Fforwm Eglwys a Chymdeithas, Eglwysi ynghyd ym Mhrydain ac Iwerddon (EYMI), Rhwydwaith Cyfiawnder Hiliol a Phwyllgor Materion Gwledig CYTÛN. Cydweithia’r Adran hefyd yn agos â chyswllt yr eglwysi yn y Cynulliad, Bethan Jones.

