Annibynwyr Title
 
 
 
 

Dinasyddiaeth Gristnogol

Enghreifftiau o weithgarwch yr Adran:

HIV/AIDS: 42 miliwn wedi’u heintio; 41,000 yng ngwledydd Prydain. Beth yw rôl yr eglwys? Beth yw dyletswyddau arweinyddion eglwysig?  Penodwyd y Parchedig Christopher Owen yn Gysylltydd CWM ar HIV/AIDS. 1af Rhagfyr yw Diwrnod AIDS; cyfle i bob eglwys ganolbwyntio ar effaith yr haint ar ein bywydau a’n cymunedau. 

Ceiswyr Lloches: Pan ddaeth ceiswyr lloches i sylw’r cyhoedd cafwyd ymdeimlad greddfol nad oeddem i’w trin yn ddirmygus. Di-sail yw’r gred bod niferoedd y ffoaduriaid yng Nghymru yn uchel; yng ngwledydd tlota’r byd y ceisia 75% ohonynt loches.  Bu’r Parchedig Aled Edwards yn trefnu ymweliadau ceiswyr lloches i Gyfarfodydd Cyfundebol.

Caethwasiaeth:  Er diddymu caethwasiaeth yng ngwledydd Prydain yn 1807 mae caethwasiaeth y diwydiant rhyw, llafur plant a chyffuriau yn dal i chwarae rhan arswydus ym mywydau cymaint o’n cyd-drigolion, yng Nghymru ac ar draws y byd. Wrth ddathlu’r diddymiad byddwn fel Adran yn ceisio sicrhau bod ein heglwysi yn ymwybodol o’u dyletswyddau i ymdrin â’r hyn sy’n digwydd yn 2007.

Newyddion
News
20/11/2008
Cwpan Denman a Thlysau Cyfundeb Lerpwl 2009
19/11/2008
Adnoddau Beiblaidd Newydd i Blant - am ddim !
18/11/2008
Ymwelydd De Affrica : Lle a Phryd
Dyluniwyd gan www.elfen.co.uk