Annibynwyr Title
 
 
 
 

Eglwysi a’u Gweinidogaeth

Enghreifftiau o weithgarwch yr Adran:

Diogelwch Plant

Dyma faes hynod o bwysig. Wrth wrando ar adroddiadau o waith y Panel Cyd-enwadol, sy’n gofalu bod cyfle i bawb sy’n gweithio gyda phlant oddi fewn i’n heglwysi gael eu gwirio gan y Biwro Cofnodi Troseddau, daw pwysigrwydd a pherthnasedd y ddeddfwriaeth hon yn fwy-fwy i’r amlwg.

Rhaglen AGAPE

Mae’r Adran yn edrych ar bosibiliadau a chanlyniadau cyffrous yr hyn a elwir yn Weinidogaethau Amgen.  A ninnau wedi hen arfer meddwl am ein capeli fel "blychau", pwy sy’n barod i fentro "meddwl tu allan i’r bocs" mewn perthynas â’r weinidogaeth?

Y Blwyddiadur

Rhan bwysig iawn o waith yr Adran yw gofalu am gynnwys y Blwyddiadur mewn cydweithrediad â’r Golygydd. Mae’r gyfrol yn cynnwys gwybodaeth gynhwysfawr am yr holl Adrannau  a mudiadau sy’n gysylltiedig ag Undeb yr Annibynwyr Cymraeg, ynghyd ag enwau a chyfeiriadau gweinidogion, ac ysgrifenyddion yr eglwysi a’r cyfundebau.

Newyddion
News
20/11/2008
Cwpan Denman a Thlysau Cyfundeb Lerpwl 2009
19/11/2008
Adnoddau Beiblaidd Newydd i Blant - am ddim !
18/11/2008
Ymwelydd De Affrica : Lle a Phryd
Dyluniwyd gan www.elfen.co.uk