Materion Teuluol
Credir y bydd nifer o fanteision yn dod o sefydlu'r Adran Materion Teuluol i gymryd lle'r Adran Ieuenctid.
O ran yr Adran, bydd
- ffresni newydd yn dod i mewn i’r trafodaethau
- ysbryd mwy anturus yn dod i’r gwaith
- apêl gliriach a mwy uniongyrchol at rieni ifanc
- cyfle i wneud cyfraniad ehangach
Bydd yn rhoi cyfle iddi
- ymdrin ag ieuenctid yng nghyd-destun y teulu
- ail-feddwl am y modd y mae cyflawni ei gwaith
- ymestyn cylch ei gweithgarwch a’i dylanwad
Ymhlith y pynciau y gall fynd i’r afael â hwy (yng nghyd-destun teuluoedd), bydd,
- eu perthynas â Christnogaeth
- agweddau o ddiogelwch plant
- cyfrifoldebau rhieni
- darpariaeth ar gyfer ieuenctid
- problemau fel alcohol a chyffuriau
- teuluoedd yn chwalu
- materion yn ymwneud â moesoldeb
- addysg rhyw
- safonau Cristnogol

