Y bumed o erthyglau gan y Llywydd, Owain Llŷr Evans

Y Cyngor

Cyfarfu Cyngor Undeb yr Annibynwyr Cymraeg yn Llety Parc, Aberystwyth (10 a 11 Hydref). Digwydd hyn o leiaf unwaith y flwyddyn. Gwaith y Cyngor yw llywio bywyd a chenhadaeth ein Hundeb, a hynny trwy gyfrwng y pedair Adran: Cenhadaeth a’r Eglwys Fyd-eang; yr Eglwysi a’u Gweinidogaeth; Dinasyddiaeth Gristnogol; Tystiolaeth. Cafwyd trafodaeth eang a phwysig ar sut i ledaenu a dyfnhau ein cenhadaeth, ein gwasanaeth a’n gweinidogaeth, gan gynnal ac annog ein gilydd fel eglwysi: deuddydd o bwyllgorau a phwyllgora. 

Y mae dau fath o bobl ar bwyllgorau fel rheol. Y bobl sy’n bwysig i bwyllgor, a’r bobl y mae pwyllgor yn bwysig iddynt hwy. Y cyntaf yw’r rhai, os daw cyfle iddynt, sydd â rhywbeth i’w ddweud ganddynt, a’r ail yw’r rhai, cyfle neu beidio, sy’n siŵr o ddweud rhywbeth.

Ymdrech y dosbarth cyntaf yw dod â gwaith i’r pwyllgor, ond ymgais yr ail ddosbarth yw pwyllgoreiddio pob gwaith. Yn sgil ymdrechion y dosbarth cyntaf uchod, bu gofyn arnom i godi sawl gweithgor. Bu crychu talcen a chodi eiliau; do, ond pam? Beth yw Gweithgor ond Is-bwyllgor? Os oes cymal mewn enw sydd yn fwy camarweiniol na’i gilydd yn ein hiaith, y cymal Is yn ei berthynas â Pwyllgor yw hwnnw. Pwy a feiddiodd ei gamenwi felly? Sawl gwaith mewn pwyllgor y daeth trafodaeth ddi-ben-draw i derfyn trwy ei throsglwyddo yn hwylus i Is-bwyllgor (neu’r Gweithgor). Pwyllgor dal y babi yw’r Is-bwyllgor. Yr Is-bwyllgor/Gweithgor sydd yn datrys y mater, yn ateb y gofyn, yn cynnig ffordd ymlaen, ac yna am ei drafferth yn cael dychwelyd i’r pwyllgor mawr – i’r union rhai a fethodd a datrys y mater yn y lle cyntaf.

Pe bawn ond yn Unben! Dw i’n aml yn dychmygu cymaint yn well buasai’r byd pe bawn ond yn cael fy ffordd. Ie, pe bawn yn Unben buaswn yn gorchymyn bod unrhyw un a gymero yn ei ben i ymaelodi â phwyllgor – i fwrw i waith gweinyddu – yn treulio o leiaf pum mlynedd ar yr Is-bwyllgor. Buasai hynny’n cynnig cyfle iddi/iddo weithio i fyny, yn hytrach na edrych yn gall wrth gynnig bod angen trosglwyddo’r mater i Is-bwyllgor. 

Pob clod i’r Is-bwyllgorau! Henffych well chi wirfoddolwyr y Gweithgor! Hebddynt/heboch, ni fyddai na seremoni, na sioe ... nag Undeb o eglwysi gwerth sôn amdanynt.

Cyfundeb

Cefais gyfle i ymweld â Chyfundeb De-ddwyrain Cymru – fy Nghyfundeb – nos Fercher 8 Hydref. Cyfarfu’r Cyfundeb yn eglwys fy nghofal, Minny Street, Caerdydd. Beth yw Cyfundeb? Oes ddyfodol, neu ddiben i Gyfundeb? I ganfod ateb, rhaid bwrw golwg yn ôl ac o’n cwmpas, a hynny’r un pryd! Edrych yn ôl i’r Diwygiad Methodistaidd; cyfnod Howell Harries, Daniel Rowland a William Williams, Pantycelyn; edrych yn ôl i Azariah Shadrach, John Elias, Christmas Evans a Williams o’r Wern. Cyfnod y codi capeli wedyn; Cymanfaoedd Pregethu a’r torfeydd yn tyrru i oedfaon awyr agored, tair pregeth. Ceir adroddiadau lu yng nghyfnodolion y cyfnod; tebyg bod ychydig o benrhyddid bardd yn rhain neu Gymanfa ryfeddol oedd honno ym Mlaen-y-coed yn 1822, gyda 60 o weinidogion yn bresennol, ynghyd a 60 pregethwr arall, a 27,000 yn y gynulleidfa! Sefydlwyd y traddodiad o gyfarfodydd tri-misol – y Cwrdd Chwarter.

Mewn ymgais i ysgafnhau’r baich cyllidol a gododd yn sgil codi addoldai sefydlwyd yr Ymgyrch Dileu Dyledion. Ffurfiwyd ‘ardaloedd’ drwy Gymru gydag eglwysi yn cynorthwyo ei gilydd i gasglu arian. Tebyg mai o’r cyfarfodydd tri-misol a’r ‘ardaloedd’ y deilliodd y cysyniad o Gyfundebau. Yn 1872 adeiladwyd ar drefn y Cyrddau Chwarter trwy ffurfio Undeb yr Annibynwyr Cymraeg. Edrych yn ôl i 1900, 71 o eglwysi yng Nghyfundeb Dwyrain Morgannwg; 1930, 72 o eglwysi; 1960, 77 o eglwysi ... 2015, 27 o eglwysi, 2024, 20 o eglwysi, a 2025, 28! Mae’r naid o 20 i 28 yn ddim byd ond canlyniad cyfuno’n ddiweddar Cyfundeb Dwyrain Morgannwg a Chyfundeb Gogledd Morgannwg a Mynwy.

Och a gwae yw ein hanes fel Cyfundeb cystal cyfaddef; OCHneidio a GWAEthygu sydd anorfod heb ein bod yn troi llinell o emyn 597 yn Caneuon Ffydd yn weddi ac yn arwyddair i ni:

cymhwysa ni i her ein hoes.

Bwrw golwg yn ôl ac o’n cwmpas, a hynny’r un pryd? Yn ôl, ie ac o’n cwmpas, i weld gwaith cyfredol ein Harglwydd byw a bendigedig. Pan sylweddolwn nad nyni sydd yn cymhwyso Iesu i fympwyon ein hoes, ond yn hytrach, mai Ef sydd yn ein cymhwyso i her ein hoes, y down, fel eglwysi lleol, ac o’r herwydd fel Cyfundebau, ac o’r herwydd Undeb yr Annibynwyr Cymraeg yn llawer mwy cenhadol na chynhaliol; yn llawer mwy enillgar na chadwraethol. 

Trigain mlynedd

Dydd Sul 12 Hydref, fy mraint oedd cael ymuno yn nathliadau'r Parchg Gareth Morgan Jones yng nghapel yr Alltwen: 60 mlynedd yn y Weinidogaeth. Ni ddylem fod yn esgeulus o’r fath ddathlu; rhaid dathlu 60 mlynedd yn y Weinidogaeth! Yn, a thrwy, ac er waethaf pob newid, diolch am y bobl hynny y gellid dibynnu arnynt i ddal ati, i ddal ati i ddal ati, ie am 60 mlynedd. Dibynna’r eglwys leol, Cyfundeb, Adran, Cyngor ar bobl ddibynadwy. Pobl y gallwn ddibynnu arnynt i fod yn bresennol, ac mae sawl haen o ystyr i hynny. Yn bresennol mewn gwasanaeth a chyfarfod, yn bresennol – ymwybodol – o’n diffygion ac o’n rhinweddau; beth sydd yn gweithio, beth nad yw’n gweithio, beth all weithio’n well. Pobl ddibynnol ydym: yn ddibynnol ar Grist, yn ddibynnol ar ein gilydd; yn bobl y gall eraill ddibynnu arnom. 90% of success, meddai Woody Allen is turning up ... Daliwn ati – ti a fi – i ddal ati i ddal ati i droi fyny; i fod yn ddibynadwy.

 

Owain Llŷr Evans

 

Useful Links

Related Articles

Keep Informed

Receive the latest news, videos and resources.