Dyma golofn ein Llywydd, Owain Llŷr Evans

Yr Eglwys Ddiwygiedig Unedig

Gorchwyl olaf mis Hydref oedd Synod neu Gymanfa’r Eglwys Ddiwygiedig Unedig (URC) yn y Fenni (18/10). Dechrau da oedd defosiwn agoriadol y Gymanfa dan ofal Swyddog Gweinyddol yr EDU, Maggie: echel ei myfyrdod oedd Jeremeia 17:7. Down yn ôl at hynny yn y man.

Yr emyn agoriadol oedd ‘Lord, Thy Church on Earth Is Seeking’ gan Hugh Sherlock (1905-1998) sydd yn cynnwys y ddwy linell: ‘Teach us all the art of speaking/ with the accent of your love.’ Am nodyn ardderchog i’w daro ar ddechrau cynhadledd! Dyna osod cywair call i holl drafodaethau’r dydd. Onid yw’r ffordd mae’r Eglwys yn gwneud penderfyniadau llawn mor bwysig â’r penderfyniadau a wneir ganddi? Wrth ystyried geiriau Sherlock, daeth anogaeth Paul i’m cof:

‘Byddwch wresog yn eich serch at eich gilydd fel cymdeithas. Rhowch y blaen i'ch gilydd mewn parch ... Byddwch yn gytûn ymhlith eich gilydd.’ (Rhufeiniaid 12:12 a 16).

Jeremeia 

Bu Jeremeia yn fy nilyn o gyfarfod i gyfarfod yn ddiweddar. Gwasanaeth Comisiynu Gwilym yn Arweinydd Tîm ‘Angor’ Grangetown yn ‘The Bay Church’, Corporation Road, Caerdydd: testun pregeth y Parchg Ddr Alun Tudur oedd ‘Os dywedaf, “Ni soniaf amdano, ac ni lefaraf mwyach yn ei enw”, y mae yn fy nghalon yn llosgi fel tân wedi ei gau o fewn fy esgyrn. Blinaf yn ymatal; yn wir, ni allaf.’ (Jeremeia 20:9). Yn yr oedfa yn yr Alltwen i ddathlu trigain mlynedd y Parchg Gareth Morgan Jones yn y weinidogaeth, y darlleniad oedd Jeremeia 1:4-10 a’r Parchg Dewi Myrddin Hughes (yntau hefyd yn nodi trigain mlynedd ers ei ordeinio) yn darllen. Yn nefosiwn agoriadol Cymanfa’r Eglwys Ddiwygiedig Unedig, Jeremeia 17:7, ‘Bendigedig yw'r sawl sy'n hyderu yn yr ARGLWYDD, a'r ARGLWYDD yn hyder iddo.’ Felly, Jeremeiaf innau hefyd: Roedd Jeremeia’r proffwyd o dan glo. Yn ei ddiymadferthedd mewn carchar y cyflawnodd Jeremeia ei weithred fwyaf. Gweithred o ffydd fentrus: prynodd ddarn o dir.

Prynu tir

Prynodd Jeremeia ddarn o dir pan oedd pawb arall yn gwerthu tir, tai, eiddo er mwyn cael dianc. Prynodd ddarn o dir, er mwyn cael aros (Jeremeia 32:9-15). Gweithred fentrus i Jeremeia oedd prynu darn o dir yn ymyl ei gartref yn Anathoth, pan oedd y wlad yn cael ei meddiannu gan y gelyn, Babilon. Cydiodd yn y cyfle oherwydd iddo weld a deall y byddai gweithred obeithiol yn fwy huawdl na’r bregeth orau ar ei dafod. Hawlio yfory er gwaethaf ansicrwydd heddiw yw gorchest ffydd bob amser. Gwelir realiti hyn yn Shotton, tref a chymuned yn Sir y Fflint. Ar stryd fawr Shotton mae eglwys leol Ddiwygiedig Unedig Rivertown, sydd oherwydd nawdd sylweddol gan yr enwad wedi medru gweddnewid adeilad tywyll, lleddf i fod yn ffrwd o olau i’r gymuned. Roedd clywed sôn am holl ystod y gwaith a fu, y ddarpariaeth sydd i a chyda’r gymuned leol yn donic enaid. Mae Rivertown wedi hepgor yr ‘e’ olaf yn y cymal ‘Glory to God in the highest!’ Gwelir gogoniant Duw felly yn yr High St.

Mae Rivertown wedi hawlio yfory er gwaethaf ansicrwydd heddiw. Gellid ei hefelychu? Yn sicr, gall eglwysi lleol Undeb yr Annibynwyr Cymraeg efelychu Rivertown, Shotton. Manteisiwn ar ein Rhaglen Arloesi a Buddsoddi. Mae awgrym o enw newydd, a’r enw newydd yn well: Cynllun Cyfle. Gellid hawlio hyd at £20,000 y flwyddyn am gyfnod o dair blynedd i i gydio yn ein cyfle i greu a chynnal ffydd, gobaith a chariad yn lleol. Mae stori Ebeneser Dyfnant, gardd newydd Llanuwchllyn a Thŷ Croeso, Pwll-trap, San Clêr yn enghreifftiau i’w hefelychu. 

Yn ôl un hen chwedl Iddewig, holltwyd dyfroedd y Môr Coch, nid pan estynnodd Moses ei law, ond pan gamodd y cyntaf o’r bobl i’r dŵr. Roedd Duw yn gwybod fod ganddo’r gallu i hollti’r dyfroedd, ond i hollti’r dyfroedd, roedd yn rhaid i Dduw wybod fod y bobl yn gwybod fod ganddo’r gallu i hollti’r dyfroedd! Holltwyd y dŵr o ganlyniad i fenter ffydd yr hwnnw, neu’r honno a gamodd gyntaf i’r dŵr gan wybod, gwybod fod pob peth yn bosibl i Dduw, gyda Duw.

 

Owain Llŷr Evans

Related Articles

Keep Informed

Receive the latest news, videos and resources.