Braint oedd cael bod yn dyst i seremoni arbennig i anrhydeddu Haulwen Lewis – sef oedfa i gyflwyno Medal Thomas a Sussanah Gee iddi am ei ffyddlondeb a'i hymroddiad i’r ysgol Sul yn y Tabernacl, Pencader ar ddydd Sul 26 Tachwedd.
Arweiniwyd y gwasanaeth gan blant yr ysgol Sul a chafwyd cyfraniadau o werthfawrogiad gan Nerys Thomas a Ffred Ffransis ar ran yr ysgol Sul.
Yn ei neges, cyfeiriodd y Parchedig Aled Davies at Ddameg yr Heuwr a phwysigrwydd hau'r hadau er mwyn iddynt dyfu ac ehangu nes ymlaen. Ond er pwysigrwydd yr hadau, rhaid peidio ag anghofio’r heuwr a’i rôl yntau. Braf oedd gweld cynifer o gyn-aelodau’r ysgol Sul yn bresennol a bod y cysylltiad yn parhau – y cyfan yn brawf bod yr hadau wedi ehangu a dwyn ffrwyth a diolch fo i Haulwen am hynny.
Ymfalchïwn yn fawr yng nghyfraniad aelodau ffyddlon yr Eglwys a diolchwn iddynt am roi o’u hamser at waith y ffydd ac am ddilyn dysgeidiaeth Iesu Grist.
Bu’n wych fel dysgawdwr, fe wnaeth bethau mawr,
a llwyr ein llawenydd yn Iesu yn awr,
ond mwy ein rhyfeddod, sancteiddiach ein clod
o’i weld yn wefreiddiol ryw ddydd uwch y rhod.
E. H. Griffiths (C.Ff. 563)
Drama Nadolig yr ysgol Sul
Dathlwyd dwy garreg filltir bwysig iawn yn y Tabernacl Pencader ar Sul 10 Rhagfyr, pen-blwydd Iesu Grist a phen-blwydd Mrs Nancy Jones. Cawsom wledd o ganu ac adrodd stori’r geni gan y plant ynghyd â pherfformiadau offerynnol. Dosbarthwyd anrhegion i’r plant am eu ffyddlondeb yn ystod Suliau’r flwyddyn.
Cyflwynwyd neges y Nadolig gan ein Gweinidog y Parchedig Chris Bolton a chyfle i bawb fyfyrio dros ystyr y gair Nadolig gan gofio am y doethion a’r bugeiliaid, yr angel Gabriel a’r gogoniant a ddaeth drwy enedigaeth y baban mewn preseb. I orffen yr oedfa fendithiol, cafodd pawb gyfle i ganu pen-blwydd hapus i Nancy yn 90 oed ac ni fyddai’r un pen-blwydd yn gyflawn heb de a danteithion yn y festri a channwyll ar gacen.
Diolch i bawb am ymuno yn y digwyddiad arbennig hwn unwaith eto eleni ac am baratoi’r llwybr tuag at ŵyl y Geni.
Siân Thomas