Llef a glywyd yn Rama, 

Wylofain a galar dwys; 

Rachel yn wylo am ei phlant, 

Ac ni fynnai ei chysuro, am nad oeddent mwy. 

 

Darllenwyd y geiriau cyfarwydd hyn o Efengyl Mathew fel rhan o wasanaeth heddwch yn eglwys Soar, Penygroes, Arfon, un bore Sul ac yn wyneb erchyllterau rhyfel y Dwyrain Canol maen nhw’n diasbedain i lawr y canrifoedd. Ymateb cyffredin i’r digwyddiadau hyn yn Gaza yw teimlad o ddiymadferthedd – waeth beth fo’r dadleuon am achos y gyflafan ddiweddaraf.

Dydi deiseb yn newid dim mae’n debyg, ond mae’n ddatganiad o safbwynt, a siawns nad oes galw arnom fel eglwysi i wneud hynny. A phe bai ugeiniau o rai tebyg yn cyrraedd Aelodau Seneddol a hyd yn oed y llywodraeth byddai raid iddynt ymateb o leiaf. Gyda’r gobaith hefyd y bydd yn gwneud i bobl feddwl. 

Cam cyntaf, a cham hanfodol, yw stopio’r bomio. Yr her sy’n wynebu arweinwyr gwledydd ym mhob man ar ôl hynny yw ceisio setliad sy’n diogelu hawliau yr Iddewon a’r Palestiniaid fel ei gilydd. Bu amser pan oedd lladd a thrais Gogledd Iwerddon yn ymddangos fel pe bai am barhau am byth heb obaith am gymod. Ond trwy ymdrechion caled a chyfaddawd daeth diwedd ar yr erchyllterau hynny.

Mae gobaith yn rhinwedd Cristnogol iach. Siawns na allwn geisio rhoi mynegiant i’r gobaith hwnnw ac wrth ei ddatgan helpu ei wneud yn realiti. Dyna’n gobaith ni yma yn Nyffryn Nantlle.

Ystyriwch chithau, yn eglwysi, gofalaethau a chyfundebau, drefnu deiseb eich hun er mwyn codi llais. Dyma eiriad y ddeiseb yn Gymraeg: 

Deiseb yn galw am heddwch ym Mhalesteina ac Israel

Ar ran eglwysi ………… gresynwn fod cynifer o fywydau wedi eu colli ers Hydref 7, 2023 yn Israel/Palesteina.

Galwn am: 

Gadoediad yn syth 

Rhyddhau y gwystlon 

Dod â’r blocâd i ben.

Cydnabyddwn fod holl ddinasyddion Israel/Palesteina yn gydradd. Galwn am gychwyn trafodaethau ar frys i lunio llwybr heddwch a chyfiawnder ar batrwm cyffelyb i’r broses gymodi yn Ne Affrica a Gogledd Iwerddon. 

Related Articles

Keep Informed

Receive the latest news, videos and resources.