Yng nghyfarfod Cyngor Undeb yr Annibynwyr yn Aberystwyth, cafodd Mesur Mudo Anghyfreithlon Llywodraeth y DU ei feirniadu’n hallt.

Mewn llythyr a anfonwyd ar ran yr Undeb i’r Ysgrifennydd Cartref, Suella Braverman, dywedodd y Llywydd, y Parchg Beti-Wyn James, i’r aelodau gael eu harswydo gan y bwriad i alltudio plant sydd heb gwmni, teuluoedd a menywod unigol o’r gwersylloedd cadw. Mae llywodraeth y Deyrnas Unedig yn ymddwyn yn groes i gyfraith ryngwladol a chonfensiynau hawliau dynol drwy drin ceiswyr lloches sy’n croesi Sianel Lloegr mewn cychod bychain fel troseddwyr, meddai.

Mae’r Undeb yn annog Ms Braverman i ystyried darparu llwybrau mynediad mwy diogel a chyfreithlon i’r Deyrnas Unedig, er mwyn galluogi ceiswyr lloches i gael eu hachosion wedi’u prosesu’n gyfreithiol mewn modd trugarog a gwâr.

Y Llythyr yn llawn:

Annwyl Ysgrifennydd Cartref 

Rwy’n ysgrifennu ar ran Undeb yr Annibynwyr Cymraeg, sy’n cynrychioli Cristnogion o bob lliw gwleidyddol sy’n cyfarfod mewn 350 o gapeli ledled Cymru.

 Mae’r Mesur Mudo Anghyfreithlon a’i ganlyniadau i’r rhai sy’n ffoi rhag gwrthdaro ac erledigaeth yn peri gofid mawr i’n haelodau. Yn benodol, cawsom ein harswydo gan y cymal a fyddai’n caniatáu alltudio plant sydd heb gwmni, teuluoedd a menywod unigol o’r gwersylloedd cadw.

Credwn fod y Bil yn adlewyrchu’n wael ar enw da y DU drwy fynd yn groes i gyfraith ryngwladol a chonfensiynau hawliau dynol drwy drin ceiswyr lloches, sy’n peryglu eu bywydau drwy groesi Sianel Lloegr mewn cychod bach, fel troseddwyr. Fel y mae nawr, bydd y Bil yn gwadu cefnogaeth i ddioddefwyr caethwasiaeth fodern a’r rhai a fasnachwyd gan droseddwyr sy’n smyglo pobl, a fydd yn siŵr o ganfod ffyrdd eraill i mewn i’r DU. Yn ein barn ni, ni fydd y Mesur yn atal mudo anghyfreithlon.

Rydym yn eich annog yn barchus i ystyried darparu llwybrau mynediad mwy diogel a chyfreithlon i’r DU, er mwyn galluogi ceiswyr lloches i gael eu hachosion wedi’u prosesu’n gyfreithiol mewn modd trugarog a gwâr.

Sylweddolwn fod y Mesur Mudo Anghyfreithlon eisoes wedi cychwyn ar ei ffordd drwy’r Senedd ac nad oes modd ei dynnu’n ôl. Ond fel pobl o ffydd, rydym yn erfyn arnoch chi, fel Bwdhydd o argyhoeddiad, ac yn enw ein dynoliaeth gyffredin, i dderbyn Gwelliannau i’r ddeddfwriaeth. Gall y rheiny, o leiaf, leddfu’r dioddefaint y bydd y Bil hwn, heb os, yn ei achosi i bobl sydd mewn gofid ac anobaith yn ffoi rhag erledigaeth.

Yn gywir,

 

Parchedig Beti-Wyn James BD MTh 

Llywydd, Undeb yr Annibynwyr Cymraeg

Related Articles

Keep Informed

Receive the latest news, videos and resources.