Ym mis Gorffennaf bu gwaith cenhadol arbennig yn digwydd yn eglwys Saron, Creunant mewn cydweithrediad â 10 o eglwysi lleol eraill.

Er mwyn ymateb i’r dirywiad ysbrydol enbydus sy’n digwydd yng Nghymru, penderfynodd yr eglwysi i wahodd 10 cenhadwr o Frasil i ddod i weithio yn eu plith am gyfnod o fis. Yn y degawdau diwethaf y mae  y mae twf aruthrol wedi bod ar Gristnogaeth o gefndir Protestannaidd a charismataidd yn Brasil. Y mae eu gwaith yn amlwg o dan fendith yr Arglwydd. Yn yr eglwysi hynny y mae nifer yr aelodau wedi cynyddu o 2 filiwn yn 1960 i 55 miliwn yn 2020. Erbyn hyn y  mae poblogaeth Brasil yn 214 miliwn sy’n golygu fod 25% o’r boblogaeth yn mynychu eglwysi Protestannaidd.

Enillgar

Fel man cychwyn i’r gweithgarwch pwysig hwn daeth y cenhadon o Frasil am fwyd barbeciw i gartref teulu gweinidog yr eglwys, Rhys Locke ar y 12ed o fis Gorffennaf. Roeddent yn ymweld â 10 eglwys yn yr ardal er mwyn rhannu’r newyddion da am Grist. Ymhlith nifer o weithgareddau eraill, aethant ar ymweliad ag  Ysgol y Creunant i ddysgu'r plant am yr Amazon a dosbarthu cardiau bach gydag enw'r Iesu arnynt. Dywedodd Rhys, “Braint enfawr imi ac Eglwys Saron, Creunant oedd croesawu’r cenhadon o Frasil i'n plith. Nid yw hyn yn ddigwyddiad newydd oherwydd maent yn dod pob blwyddyn ers rhyw chwe blynedd. Deuant i Gymru o dan adain grŵp cenhadol DNA Mission Uk o dan arweiniad David ac Adriana Beddows sydd yn byw yn Abergarwed, nid nepell o bentref Resolfen.”

Dolen

Daw Adriana yn wreiddiol o Frasil ac fe ddaeth yma i wneud astudiaethau Beiblaidd yng Ngholeg y Beibl, Derwen Fawr, Abertawe. Yno fe gyfarfu â’r gŵr, David, a phriodi yn Eglwys Annibynnol Bethesda, Cwrt Sart yng Nghastell Nedd. Mae DNA Mission Uk: David ac Adriana Beddows yn frwd iawn i gynorthwyo capeli Cymraeg a Saesneg yr ardal trwy eu pregethu ac maent wedi bod yn brysur yn cynorthwyo Eglwys Saron dros y blynyddoedd. O ganlyniad i gysylltiadau Adriana gyda Brazil, penderfynwyd rhai blynyddoedd yn ôl i ddod a chenhadon o Frasil pob blwyddyn er mwyn cynorthwyo'r capeli yn yr ardal ymhellach trwy bregethu, rhoi tystiolaeth a'u cymell i barhau yn y ffydd a'r gwaith o gyhoeddi'r Newyddion Da.

Croeso

Eleni croesawyd y cenhadon i Saron gyda 'Noson o groeso/Welcome evening' lle y mwynhawyd  oedfa a phryd o fwyd gyda'r unigolion hyfryd o Frasil. Cafwyd cyfle i addoli’r Arglwydd a rhannu profiad am ein ffydd heb sôn am fwyta danteithion a baratowyd ar ein cyfer. Mwynhaodd y plant, yr Eglwys a'r teuluoedd yn fawr yn eu cwmni.  Gweddïwn am fendith Duw ar eu gwaith yn ein plith, yn enwedig yn eu prif eglwys: Bethesda, Cwrt Sart. Edrychwn ymlaen fel eglwys i'w croesawu i'r capel unwaith eto ac fe estynnir croeso i bawb. Diolchwn i Dduw am ddod a chenhadon i Gymru.

 

Parch. W Rhys Locke

Related Articles

Keep Informed

Receive the latest news, videos and resources.