Bydd Undeb yr Annibynwyr Cymraeg ac A Rocha UK yn cynnig cyfle yn ystod Eisteddfod yr Urdd Llanymddyfri i bobl ifanc Cymru rannu eu gobeithion a’u dyheadau am ddyfodol y blaned a’r amgylchedd. 

Mae’r mudiadau yn dod ynghyd i greu Carthen Gobeithion lle bydd negeseuon yn cael eu hysgrifennu ar ddarnau o ffabrig, ac yna eu pinio i hen garthen sydd wedi dod i lawr y cenedlaethau ac a fydd yn cael gwedd newydd trwy’r prosiect hwn. Y bwriad yn y pendraw yw pwytho’r siapau ar y garthen i greu clytwaith gorffenedig hardd fydd yn dangos yn glir beth yw blaenoriaethau pobl ifanc ar gyfer y dyfodol. 

Bydd y gweithgarwch ar gael ddydd Llun hyd ddydd Gwener ym mhabell Cytûn ar faes yr Eisteddfod a bydd gwirfoddolwyr o’r eglwysi wrth law i sôn am y prosiect ac annog pobl i ychwanegu eu neges bersonol eu hunain.  

Dywed Fiona Gannon, Cadeirydd Pwyllgor Amgylcheddol Undeb yr Annibynwyr,

“Fel llawer o deuluoedd yng Nghymru, mae gennym ni un o garthenni Mamgu yn saff yn y cwpwrdd, ond dyw hi ddim yn cael ei defnyddio nac yn gweld golau dydd oherwydd ein bod ni ddim bellach yn rhoi cwilt ar y gwely. Mae hwn yn gyfle gwych i roi pwrpas newydd i’r garthen, a defnyddio gwaith gofalus y gorffennol yn sylfaen ar gyfer gobeithion y dyfodol. Gall symbol gweledol fod yn effeithiol dros ben, a byddai’n wych petai’r garthen yn llawn negeseuon pwrpasol erbyn diwedd wythnos yr Urdd.”

Dywed Delyth Higgins, Swyddog Eco Church Cymru gydag A Rocha UK,

“Mae hyn yn gyfle gwych i bobl ifanc gofnodi eu gobeithion am ddyfodol ein cymdeithas o safbwynt amgylcheddol ac ecolegol mewn modd creadigol. Bydd y negeseuon yn cael eu pwytho ar y garthen i greu cyfanwaith o obeithion. Rwy’n edrych ymlaen i weld yr ymateb yn ystod yr Ŵyl a gobeithio y bydd yn denu sylw y bobl sydd angen clywed!”   

Yn y cyfamser mae yna alwad am ddarnau o ddefnydd plaen fydd yn addas ar gyfer ysgrifennu negeseuon neu greu lluniau â phen ffabrig. 

llun uchod gan FruitMonkey, o dan drwydded  Creative Commons Attribution-Share Alike 4.0 Internationa

Useful Links

Related Articles

Keep Informed

Receive the latest news, videos and resources.