Un o gyn-ohebwyr mwyaf profiadol BBC Cymru oedd y siaradwr gwadd yn Sul Sbesial Annibynwyr Gorllewin Caerfyrddin eleni.
Ofnwyd y byddai'r tywydd llethol o boeth yn golygu y byddai nifer ddim yn mentro allan, ond eto roedd neuadd Bronwydd yn llawn i glywed Aled Huw, un o 'blant Y Priordy,' yn siarad am rai o uchafbwyntiau ei yrfa eithriadol. Mae'n wyneb cyfarwydd i wylwyr newyddion S4C ac yn llais cyfarwydd i wrandawyr BBC Radio Cymru am bron i 35 mlynedd cyn gadael y BBC y llynedd.
Gohebu o blith straeon mawr
Bu Aled yn lygad dyst i ddigwyddiadau 'da, drwg a hyll' yng Nghymru ac ar draws y byd yn ystod ei yrfa hir. Trwy gymorth fideos ar y sgrîn fawr, fe welo ni Aled yn gohebu o blith y miliwn oedd yn dioddef newyn enbyd ar ôl ffoi o'r hil-laddiad yn Rwanda; o New Orleans ar ôl i'r ddinas honno gael ei chwalu gan Gorwynt Katrina; o ganol y dorf afieithus yn angladd Nelson Mandela; ac yn nes adre yn siarad â theulu un o'r pedwar o lowyr a laddwyd yn nhrychineb pwll glo Gleision yng Nghwm Tawe yn 2011. Dim ond pedair stori allan o filoedd oedd hynny, meddai Aled, ac fe gawsom flas byr o amryw eraill ganddo yn ystod ei gyflwyniad gafaelgar. Bu cyfle hefyd i'w holi am ddylanwad bore oes mewn Ysgol Sul ac yn ysgolion Caerfyrddin. Diolchwyd yn dwymgalon i Aled Huw gan Jean Lewis, Cadeirydd y Cyfundeb, oedd yn llywyddi'r Sul Sbesial.
Cyfraniad y plant
Cyn cyflwyniad Aled, cafwyd hanes Iesu'n taweli'r storm gan blant Ysgol Sul Capel y Graig, Trelech. Hwy hefyd fu'n traddodi'r weddi ac yn cyhoeddi'r ail emyn. Ar ôl hynny, fe aeth y plant o Drelech ac Ysgolion Sul eraill i 'stafell arall i fwynhau gweithgarwch o dan ofal athrawon Ysgol Sul Hermon, gan ddod nôl cyn y diwedd i arddangos yr hyn roedden nhw wedi eu creu. Cyfeiliwyd yr emynau yn ystod yr achlysur yn fywiog a phwerus gan Fand y Priordy. Diolch i bawb a wnaeth eu rhan mewn sawl ffordd i sicrhau llwyddiant Sul Sbesial arall (y 18fed yng Ngorllewin Caerfyrddin!) a ddaeth i ben gyda chymdeithasu dros gwpaned o de a bisgedi a drefnwyd gan aelodau Peniel.